Gweithio allan beth rydych am ei wneud – y 10 prif awgrym
- Meddyliwch am beth rydych am ei wneud a chreui nod swydd.
- Os nad ydych yn siŵr, darganfyddwch fwy am beth mae gwahanol swyddi yn ei olygu ac a allent fod yn iawn i chi.
- Darganfyddwch fwy am wahanol fathau o swyddi yn ein hadran ‘sectorau’.
- Mae gan Gyrfa Cymru (gwefan allanol) broffiliau o amrywiaeth o swyddi.
- Mae gan Youth Employment UK (gwefan allanol) ganllaw gyrfa a chwis i’ch helpu i ddod o hyd i’ch rôl ddelfrydol.
- Meddyliwch am beth rydych yn dda yn ei wneud a beth y gallwch ei gynnig i gyflogwr.
- Gwnewch restr o’ch sgiliau a’ch profiad, gan gynnwys eich cymwysterau, profiad gwaith a’ch sgiliau personol neu ‘feddal’, fel gweithio mewn tîm neu ddatrys problemau. Gofynnwch i bobl eraill beth rydych yn dda yn ei wneud.
- Yna gallwch ddechrau paru’r sgiliau hyn yn erbyn y math o swydd rydych yn chwilio amdanynt.
- Gall cymryd asesiad sgiliau (gwefan allanol) eich helpu i ddarganfod y swyddi a allai fod yn addas i chi a beth y gallech ei weld yn ddiddorol.
- Os ydych yn gweld bod gennych fylchau yn eich sgiliau a’ch profiad, peidiwch â phoeni. Meddyliwch am ffyrdd y gallwch eu llenwi. Edrychwch ar ein tudalennau ar sgiliau ar gyfer gwaith i ddechrau arni.
- Wrth gwrs, gall eich nod swydd newid dros amser, ac efallai y bydd angen i chi fod yn hyblyg. Er enghraifft, os nad yw’r swydd rydych ei eisiau ar gael ar unwaith, gallwch chwilio am bethau eraill i’ch helpu i ddechrau ac adeiladu eich sgiliau a’ch profiad.
- Cymerwch olwg ar ein hadran ‘7 cam i lwyddiant’ i gael mwy o fanylion am nodau swydd a sut i roi hwb i’ch siawns o gael y swydd iawn.
- Mae Hybiau Ieuenctid yn fannau cyfeillgar yn eich cymuned lle gallwch gael cymorth ymarferol gyda sgiliau, gwaith, hyder a lles, i gyd mewn un lle. Mae ein tudalen ‘Cymorth personol‘ yn cynnwys gwybodaeth am Hybiau Ieuenctid a chymorth arall.