Mae’n debyg eich bod eisoes yn gwybod bod Credyd Cynhwysol yn darparu cymorth ariannol os ydych chi allan o waith. Ond efallai nad ydych yn gwybod am yr holl ffyrdd y gallai eich helpu chi i gymryd eich camau cyntaf mewn rôl neu ddiwydiant newydd.
Cymorth parhaus
Ni fydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn dod i ben dim ond oherwydd eich bod wedi dechrau gweithio. Os ydych ar incwm isel, gallai Credyd Cynhwysol barhau i ychwanegu at eich cyflog.
Am bob £1 rydych yn ei ennill o’r gwaith, gallwch gadw 37c o’ch Credyd Cynhwysol, hyd at derfyn sy’n dibynnu ar eich amgylchiadau. Mae hyn yn golygu y gallech gael eich holl dâl mynd adref, gyda Chredyd Cynhwysol yn ychwanegol hefyd.
Ac os ydych yn gyfrifol am blant, neu os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd sy’n effeithio ar eich gallu i weithio, efallai y gallwch ennill swm penodol cyn i’ch Credyd Cynhwysol leihau.
Mae hyn yn helpu i sicrhau bod cymryd gwaith yn werth chweil yn ariannol, a gallai ei gwneud hi’n haws i chi gymryd y swyddi rhan amser neu gyflog is a allai eich helpu i ddechrau mewn diwydiant newydd.
Cymryd gwaith byr-dymor
Yn wahanol i fudd-daliadau eraill, ni fydd eich Credyd Cynhwysol yn cau i lawr yn llwyr oherwydd eich bod wedi dechrau swydd. Hyd yn oed os ydych yn ennill digon o’r gwaith i beidio â chael taliad Credyd Cynhwysol, os yw’r swydd honno’n dod i ben o fewn 6 mis, nid oes angen i chi wneud cais Credyd Cynhwysol newydd.
Mae hyn yn golygu y gallwch gymryd swydd dros dro, neu weithio oriau amrywiol neu ychwanegol, heb boeni beth fydd yn ei olygu i’ch hawliad budd-dal. Gallwch ailddechrau eich Credyd Cynhwysol yn hawdd heb orfod ail-nodi’ch holl fanylion.
Help gyda gofal plant
Os ydych yn jyglo bywyd cartref a gwaith, gall Credyd Cynhwysol helpu trwy dalu hyd at 85% o’ch costau gofal plant. Nid oes ots faint o oriau rydych yn eu gweithio – os ydych yn talu darparwr gofal plant cofrestredig, efallai y gallwch hawlio hyd at £646.35 y mis yn ôl os oes gennych un plentyn, neu £1,108.04 y mis os oes gennych 2 neu fwy.
Cymorth i ddod o hyd i waith
Mae eich anogwr gwaith Credyd Cynhwysol yno i’ch help i ddod o hyd i waith ac aros ynddo. Gallant eich cynghori am y dulliau recriwtio diweddaraf, a gallant ddweud wrthych am y diwydiannau sydd â’r nifer fwyaf o swyddi gwag. Byddant hefyd yn helpu gyda’ch CV neu’ch ceisiadau am swydd, a gallant nodi sut y gallai eich sgiliau fod yn werthfawr i gyflogwyr ac mewn swyddi nad ydych efallai wedi’u hystyried o’r blaen. I gael mwy o wybodaeth am unrhyw beth sy’n ymwneud â Chredyd Cynhwysol, ewch i wefan Deall Credyd Cynhwysol.