Neidio i’r cynnwys

Llwyddo mewn cyfweliadau

Paratoi – fel eich bod yn gwybod beth rydych yn son am

Ymarfer – ymarferwch eich atebion

  • Dywedwch nhw’n uchel o flaen drych.
  • Yn well fyth, ymarferwch gyda ffrind neu aelod o’r teulu. Gall helpu i dawelu’ch nerfau.

Trefnu – cael yr hanfodion yn eu lle

  • Cynlluniwch eich taith i’r cyfweliad fel eich bod yn rhoi digon o amser i chi’ch hun.
  • Neu os yw ar-lein, gwnewch yn siwr bod eich technoleg yn gweithio a dod o hyd i rywle na fydd neb tarfu arnoch chi.

Anadlu – tawelu’r nerfau

  • Mae anadlu’n dyfn cyn i chi ddechrau yn arafu cyfradd curiad eich calon.
  • Bydd cymryd anadl cyn pob ateb yn rhoi amser i chi feddwl.

Ymgysylltu – dangoswch eich hyder

  • Gwenwch (ond nid fel The Joker).
  • Eisteddwch yn unionsyth – mae’n dangos bod gennych ddiddordeb, ac mae’n gallu helpu eich anadlu.
  • Gwnewch gyswllt llygad, ond peidiwch â syllu. Ceisiwch wneud cyswllt llygaid 70% o’r amser pan fyddwch chi’n gwrando a 50% o’r amser pan fyddwch chi’n siarad.

Eisiau gwybod mwy? Edrychwch ar ein hadran ar wneud eich marc mewn cyfweliadau swydd.

Ewch i’r dudalen nesaf ‘Magu hyder’ →

← Ewch yn ôl i’r dudalen ddewislen ‘Chwilio a gwneud cais am swyddi’