Ysgrifennu CV – 10 prif awgrym
- Paratowch eich CV cyn gynted ag y gallwch – bydd llawer o gyflogwyr yn gofyn am un. Eich CV yw eich cyfle mawr i wneud argraff. Gwnewch y gorau o’r hyn sydd gennych – peidiwch â bod yn swil!
- Nid yw CV delfrydol yn fwy na dwy ochr A4. Gwnewch hi’n daclus ac yn hawdd i’w ddarllen. Mae cyflogwyr sydd â llawer o CVs i fynd drwyddynt yn llai tebygol o ddarllen rhywbeth hir a bler.
- Byddwch yn ofalus iawn os ydych yn defnyddio AI. Gall eich helpu i ddechrau arni ac mae’n dda ar gyfer mireinio, ond nid oes gan AI eich personoliaeth chi. Mae cyflogwyr yn glyfar ac yn gallu sylwi ar geisiadau sydd wedi defnyddio llawer o AI. Maen nhw’n eu gweld drwy’r amser.
- Peidiwch â defnyddio’r un CV ar gyfer pob cais am swydd. Mae addasu eich CV i’r swydd rydych yn gwneud cais amdani yn hanfodol. Mae teilwra yn dangos i gyflogwr eich bod wedi darllen y swydd ddisgrifiad ac wedi deall sut y byddech yn addas i’r rôl a gynigir.
- Darganfyddwch y geiriau allweddol ym mhob hysbyseb swydd rydych yn edrych arnynt a’u defnyddio yn eich CV. Bydd cyflogwyr yn gweld y rhain. Gall defnyddio geiriau allweddol hefyd eich helpu i gael trwy’r meddalwedd olrhain ymgeiswyr y mae llawer o gyflogwyr bellach yn ei ddefnyddio.
- Ni fydd geiriau allweddol yr un fath ym mhob hysbyseb swydd ond mae rhai pethau i chwilio amdanynt. Nodi’r prif dasgau yn y swydd a’r sgiliau personol cadarnhaol maent yn sôn amdanynt (pethau fel ‘gweithio’n galed’, ‘hyblyg’ ac ‘effeithiol’). Hefyd gweld a allwch chi weld geiriau gweithredu (fel ‘dangos’ a ‘cyflawni’) i ganolbwyntio ar beth rydych wedi’i wneud a’r canlyniadau a gawsoch.
- Teilwra eich hanes cyflogaeth i ganolbwyntio ar brofiad perthnasol. Peidiwch â bod ofn gwneud rhywbeth mawr o waith bach os yw’n fwy perthnasol i’r rôl rydych chi’n mynd amdani.
- Cyn i chi anfon eich CV at recriwtiwr, gwiriwch am gamgymeriadau teipio. Gwell fyth, gofynnwch i rywun arall edrych drosto – efallai y byddant yn gweld pethau rydych wedi eu colli. Mae CV heb gamgymeriadau teipio yn dangos proffesiynoldeb!
- Hyd yn oed os nad yw cyflogwr yn gofyn am lythyr eglurhaol, mae’n syniad da darparu un. Dylai ategu eich CV trwy dynnu sylw at beth sydd fwyaf perthnasol i’r swydd. Mae’n gyfle arall i gael eich sylwi.
- Cymerwch olwg ar ein canllaw cam wrth gam ar CV a llythyrau eglurhaol. Edrychwch ar Hybiau Ieuenctid a Gyrfa Cymru (gwefan allanol) i gael mwy o help ar ysgrifennu CV, gan gynnwys gweithdai CV.
Ewch i’r dudalen nesaf ‘Chwilio am swyddi a gwneud cais amdanynt’ →