Neidio i’r cynnwys
collage of three young people photographed against bright coloured studio backgrounds

Pecyn Cymorth Cyfathrebu Kickstart

Mae'r pecyn cymorth digidol hwn yn cynnwys asedau y gellir eu lawrlwytho, cyfryngau cymdeithasol a chopi cylchlythyr a awgrymir, i'ch helpu i hyrwyddo Cynllun Kickstart i'ch aelodau a'ch cynulleidfaoedd, sy’n gyflogwyr a phobl ifanc.

Diolch am gefnogi a hyrwyddo Cynllun Kickstart, rhan o Plan for Jobs y Llywodraeth.

Isod fe welwch yr adnoddau canlynol i’w defnyddio ar eich rhaglenni, wedi’u rhannu ar gyfer cynulleidfaoedd yr ydych am gyfathrebu â hwy.

Pobl ifanc

Cliciwch ar y ddolen isod i lawrlwytho asedau cyfryngau cymdeithasol statig a symudol i'w defnyddio ar Instagram, Facebook, Twitter a Snapchat. Mae'r lawrlwythiad hefyd yn cynnwys copi, dolenni a hashnodau i'w defnyddio ar gyfryngau cymdeithasol ac erthygl cylchlythyr enghreifftiol

Cyflogwyr a Busnesau

Pan ydym yn dweud wrth bobl am y manteision y mae Cynllun Kickstart yn eu darparu, rydym am gyflwyno neges glir a chyson i Gyflogwyr a Busnesau. Gallwch lawrlwytho canllawiau llawn brand Cynllun Kickstart, logos ac adnoddau cyflogwyr ac asedau pellach trwy'r dolenni isod.

Lletygarwch

Mae sector lletygarwch y DU yn ffynnu unwaith eto wrth i ni ail-agor yn unol â llwybr y Llywodraeth i ryddid. Dyluniwyd y pecyn hwn i'ch helpu chi i siarad â'ch rhwydweithiau ac anfon neges glir at gyflogwyr lletygarwch bod y Ganolfan Byd Gwaith yma i helpu i ddod o hyd i'r ymgeiswyr iawn ar gyfer unrhyw swydd. Cliciwch ar y ddolen isod i lawrlwytho ein pecyn briffio lletygarwch - cynllunio i helpu annog ceiswyr gwaith i wneud cais i'r sector nawr.