Neidio i’r cynnwys

Cwestiynau ac atebion cyfweliad

Meddyliwch am y cwestiynau  

  • Edrychwch eto ar yr hysbyseb swydd i atgoffa eich hun beth mae’r cyflogwr yn chwilio amdano.
  • Edrychwch dros eich CV neu’ch ffurflen gais yn wrthrychol – beth fyddech chi’n ei ofyn os mai chi oedd y cyfwelydd?
  • Rhowch gynnig ar chwiliad cyflym ar y rhyngrwyd i helpu i ragweld yr hyn y gellid ei ofyn i chi. Gallwch ddod o hyd i, er enghraifft, fforymau a byrddau trafod yn ymwneud â phrofiadau pobl eraill wrth ymweld â’r cwmni.
  • Mae gan wefan y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol restr o’r deg prif gwestiynau cyfweliad (gwefan allanol).

Paratowch eich atebion  

  • Treuliwch beth amser yn meddwl am yr atebion neu’r enghreifftiau y gallech eu rhoi i arddangos eich sgiliau orau.
  • Defnyddiwch y dull cyfweld STAR, sy’n sefyll am Situation-Task-Action-Result. Bydd darparu enghreifftiau go iawn o adegau pan fyddwch wedi gwneud rhywbeth da yn rhoi dealltwriaeth dda i gyflogwyr o’ch profiad.
  • Gwnewch nodiadau – dim ond ychydig eiriau i’ch atgoffa beth rydych chi am ei ddweud, does dim angen ysgrifennu brawddegau llawn.
  • Mae gan wefan y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol fwy am the dull cyfweld STAR (gwefan allanol).

Ewch i’r dudalen nesaf ‘Ymarferwch eich atebion’ →

Ewch yn ôl i dudalen dewislen ‘Cyn y cyfweliad’