Neidio i’r cynnwys

Profwch eich technoleg

  • Ar gyfer cyfweliadau ar-lein neu ffôn, eich lle chi yw sicrhau bod eich technoleg yn gweithio. Gwiriwch bod eich meic, seinyddion, a wi-fi yn gweithio a bod gennych unrhyw apiau hanfodol. Dylech geisio profi ymlaen llaw.
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych le tawel i chi’ch hun ar gyfer y cyfweliad, heb ymyrraeth gan weithgareddau cartref, clychau drysau, teulu, anifeiliaid anwes, neu negeseuon testun.
  • Gwiriwch eich proffil ar-lein – meddyliwch sut mae eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn edrych i rywun o’r tu allan. Mae cyflogwyr yn aml yn eich gwirio ar-lein cyn cynnig swydd.

Ewch i’r dudalen nesaf ‘Yn y cyfweliad’ →

Ewch yn ôl i dudalen dewislen ‘Cyn y cyfweliad’