Neidio i’r cynnwys

Peidio â chynhyrfu mewn cyfweliadau

  • Mae’n iawn dod â neu ofyn am ddiod o ddŵr cyn i’r cyfweliad ddechrau.
  • Wrth i’r cyfweliad fynd yn ei flaen, gadewch amser i’ch hun feddwl cyn ateb pob cwestiwn. Mae cymryd anadl yn arafu cyflymder siarad a’n rhoi eiliad i chi gael eich meddyliau at ei gilydd. Efallai bydd hyn yn eich helpu i wneud eich pwyntiau’n glir, ac osgoi migno geiriau.
  • Defnyddiwch ymadroddion i brynu amser i feddwl. Er enghraifft, gall dweud ‘mae hwnna’n gwestiwn diddorol iawn, alla i gymryd eiliad i feddwl amdano?’ roi amser i chi dawelu eich meddyliau a geirio’ch ateb yn glir.
  • Peidiwch â bod ofn dweud efallai bod yna rai sgiliau nad oes gennych chi eto. Os byddwch yn esbonio eich bod yn awyddus i ddysgu mae cyflogwyr yn aml yn hapus i’ch hyfforddi.

Ewch i’r dudalen nesaf ‘Gofyn cwestiynau yn y cyfweliad’ →

Ewch yn ôl i dudalen dewislen ‘Yn y cyfweliad’