Os ydych chi’n meddwl am weithio hyblyg, boed mewn swydd newydd neu’ch swydd bresennol, mae ychydig o ffactorau i’w hystyried cyn mentro.
Dyma rai o’r cwestiynau y gallech eu gofyn i chi’ch hun:
Beth sydd bwysicaf i mi?
- Gall cael syniad clir o’ch blaenoriaethau a’ch cyfrifoldebau mewn bywyd eich helpu i benderfynu pa fath o weithio hyblyg sy’n addas i chi.
- Gallai’r rhain gynnwys gofalu am blant neu berthnasau eraill, eich iechyd corfforol neu feddyliol, neu symud ymlaen yn eich swydd cyn gynted ag y gallwch.
Sut byddai newid i weithio hyblyg yn effeithio arnaf i ac eraill?
- Sut byddai newid yn effeithio ar eich incwm?
- A fyddai newid yn effeithio ar eich plant, eich partner, neu’r rhai yr ydych yn rhannu cyfrifoldebau gofalu â nhw?
- Beth fyddai’r effaith ar eich cyflogwr?
Ydy gweithio hyblyg yn opsiwn realistig ar gyfer y swydd rydw i eisiau?
- Mae’n bosibl y bydd rhai rolau sy’n llai tebygol o fod yn addas ar gyfer trefniadau hyblyg, er enghraifft, lle mae angen i chi fod ar y safle bob amser, neu lle mae amseroedd gwaith penodol.
- A fyddai cludiant ar gael ar yr adegau y mae eu hangen arnoch, er enghraifft, os ydych am weithio’n hwyr gyda’r nos?
Pa drefniadau gweithio hyblyg fyddai’n gweithio orau?
- Faint o oriau gwaith yr wythnos fyddai’n addas i chi a’ch amgylchiadau?
- Faint fyddai angen i chi ei ennill?
- A fydd cyfleoedd i gynyddu eich enillion pe bai angen?
- Pa amseroedd fyddai orau i chi? Allwch chi ddechrau’n gynnar neu orffen yn hwyr? Allwch chi weithio bob dydd neu a oes dyddiau na allwch chi weithio?
- A oes rhai adegau o’r flwyddyn pan na allwch weithio neu lle byddai gwaith yn gyfyngedig – er enghraifft, gwyliau ysgol?
- Pa mor hyblyg allwch chi fod? Os nad yw eich dewis cyntaf o drefniadau gwaith hyblyg yn bosibl, a oes opsiynau eraill a all weithio i chi a’ch cyflogwr? Os gallwch chi fod yn hyblyg, gallai wneud byd o wahaniaeth.
- A fyddai gweithio o bell rywfaint neu drwy’r amser yn eich helpu?
- Pa mor bell a pha mor aml allwch chi gymudo? Faint fyddai cost cymudo, ac a fyddech chi’n gallu ei fforddio?
Ewch i’r dudalen nesaf ‘Sut i ddod o hyd i waith hyblyg’ →
← Ewch yn ôl i’r dudalen dewislen ‘Gweithio hyblyg’