Neidio i’r cynnwys

5: Chwilio am swyddi

Awgrymiadau da

  • Mae llawer o wefannau swyddi ar-lein. Ceisiwch chwilio ar-lein am ‘swyddi’ neu gwnewch eich chwiliad yn fwy penodol i ddod o hyd i’r swyddi gwag iawn i chi, fel ‘swyddi lletygarwch ym Manceinion’.
  • Mae llawer o gwmnïau’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol i recriwtio. Dilynwch y rhai sydd o ddiddordeb i chi.
  • Rhwydweithio – estyn allan at bobl rydych yn eu hadnabod a allai eich helpu neu eich argymell chi. Cadwch lygad allan am ffeiriau gyrfaoedd a swyddi lleol – maent yn lle gwych i gwrdd â chyflogwyr a meithrin eich cysylltiadau.
  • Ffrindiau a theulu – rhowch wybod iddynt eich bod yn chwilio am waith. Yn aml gallant fod yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth a chefnogaeth.
  • Weithiau mae cyflogwyr yn defnyddio teitlau swyddi sy’n swnio’n ffansi. Peidiwch â digalonni – edrychwch ar y swydd ddisgrifiad i weld beth maent yn son amdano.

Eisiau gwybod mwy?

  • Rhowch gynnig ar Dod o hyd i swydd (gwefan allanol). Yn ogystal â chael 1,000 o swyddi gwag, gallwch greu proffil, llwytho eich CV a chael rhybuddion e-bost am gyfleoedd newydd.
  • Chwiliwch am ‘swyddi lefel mynediad’ ar safleoedd swyddi os ydych am adeiladu eich profiad.
  • Edrychwch ar ein hadran ‘7 steps to success’ i gael mwy o gyngor ar chwilio am swyddi.
  • Dilynwch eich Canolfan Gwaith leol ar gyfryngau cymdeithasol a darganfod pa ddigwyddiadau sydd ar y gweill.

Ewch i’r dudalen nesaf ‘Dewislen o awgrymiadau da 6: Ceisiadau a chyfweliadau’ →

← Yn ôl i’r dudalen dewislen ‘Dewislen o awgrymiadau da’