Neidio i’r cynnwys

Warysau a dosbarthu

Mae cael swydd mewn warysau a dosbarthu yn golygu y byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth gadw'r wlad i fynd - pacio archebion ar-lein, sicrhau bod bwyd ar silffoedd ein archfarchnadoedd a dosbarthu nwyddau i ble mae eu hangen. Mae gyrfa yn y sector hwn yn berffaith os ydych yn mwynhau bod yn weithgar, gweithio yn y cefndir a chwilio am rôl amrywiol, ond gwerth chweil.

Mathau o rolau

Mae yna amrywiaeth o swyddi yn y sector – yn gweithio gyda stoc, pacio archebion a gyrru wagenni fforch godi. P’un a ydych yn dewis, pacio, didoli neu sganio, gallai fod swydd berffaith i chi. 

Gall rolau gynnwys: 

  • derbyn nwyddau a’u storio
  • gwirio am eitemau sydd wedi’u difrodi neu sydd ar goll
  • symud stoc gyda llaw neu gydag offer a/neu beiriannau
  • pacio a lapio nwyddau
  • llwytho nwyddau ar gyfer dosbarthu
  • cadw cofnodion stoc
  • glanhau a thacluso’r warws

Ar gyfartaledd, mae’r cyflog tua £21,000 y flwyddyn. 

5 Rheswm i Weithio mewn warysau

Pam gweithio mewn warysau? 

Os ydych yn hoffi’r syniad o amgylchedd cyflym, deinamig gyda chyfleoedd i adeiladu eich sgiliau a’ch cynnydd – mae gan weithio mewn warysau ddigon i’w gynnig. 

Dyma 5 rheswm y gallai’r sector fod yn iawn i chi: 

  1. Mae’n ddiwydiant mawr
  • Mae’r sector warws yn ehangu’n barhaus, sy’n golygu eu bod bob amser yn recriwtio i gadw i fyny â’r galw. Felly os ydych yn chwilio am waith yn gyflym, gallai safle warws fod yn opsiwn da.
  • Ac oherwydd eu bod yn brysur, efallai y bydd digon o gyfleoedd i ennill mwy o arian gyda goramser os ydych yn agored i weithio oriau ychwanegol.
  1. Gallwch ddechrau heb gymwysterau penodol, ac adeiladu eich sgiliau oddi yno
  • Mae llawer o rolau warysau yn swyddi lefel mynediad, sy’n golygu nad oes angen profiad blaenorol na sgiliau technegol arnoch. Ond yn aml gallwch symud ymlaen o’r fan honno; Efallai y byddwch yn derbyn hyfforddiant ar gyfer swyddi i ddatblygu sgiliau fel gyrru fforch godi neu sgiliau gweithredu peiriannau eraill, a allai hefyd arwain at gyflog uwch
  • Gall y sector fod yn eithaf hi-tech, felly gallech hefyd ddysgu sgiliau technegol mwy datblygedig.
  1. Gall fod yn gam gwych i yrfa rheoli
  • Os ydych eisiau datblygu’ch gyrfa mewn rheoli, gallai warysau fod i chi hefyd. Mae busnesau yn y diwydiant yn aml yn hyrwyddo o fewn yn hytrach na recriwtio’n allanol ar gyfer swyddi uwch. Wrth i chi ennill profiad, gallech weld cyfleoedd am gyflog a chyfrifoldeb uwch.
  1. Hyblygrwydd ac amrywiaeth
  • Mae warysau fel arfer yn gweithredu bob awr o’r dydd, felly maent yn tueddu i gael patrymau shifft lluosog i ddewis ohonynt – os ydych yn chwilio am swydd sy’n addas ich bywyd, gallai warysau fod yn berffaith i chi
  • Mae swyddi Warysau yn amrywio mwy nag y byddech yn ei feddwl – o fewn un warws, gallwch ddod o hyd i swyddi sy’n fwyaf addas ar gyfer pobl sy’n actif yn gorfforol ac un arall sy’n siwtio pobl â sgiliau meddal gwych. Felly beth bynnag fo’ch talentau naturiol, efallai y bydd swydd warws i chi.
  1. Mae’n berffaith os nad ydych eisiau swydd swyddfa
  • Os ydych chi’n hoffi bod yn egnïol, ac nad ydych yn hoffi’r syniad o swydd wrth ddesg, gallwch ddod o hyd i waith mewn warws sy’n ddeinamig ac yn gyflym, lle byddwch yn symud llawer o’r dydd.
Dyn yn gyrru fforch godi mewn warws

Sgiliau Dymunol

Mae ystod o wahanol sgiliau gall fod angen arnoch am swyddi warws neu gall fod yn fantais gwirioneddol pan rydych yn wneud cais am un. Mae’r rhain yn cynnwys sylw i fanylion, gweithio’n dda mewn timau, meddwl cyflym a chyfathrebu da. Efallai eich bod eisoes wedi datblygu’r sgiliau hynny o swyddi eraill neu brofiad bywyd.  

Nid oes angen cymwysterau ffurfiol arnoch o reidrwydd, ond mae rhai cyflogwyr yn gofyn am gymwysterau TGAU gradd 4 (C) mewn Saesneg a Mathemateg, neu gymwysterau cyfwerth. Efallai y bydd angen rhai sgiliau TG sylfaenol arnoch hefyd. 

Dysgwch fwy am sgiliau a hyfforddiant sy’n seiliedig ar waith

Sectorau eraill sy’n cyflogi ar hyn o bryd