Neidio i’r cynnwys

Trafnidiaeth a logisteg

Mae logisteg yn ddiwydiant eang iawn, sy'n ymgorffori cludiant, dosbarthu neu storio nwyddau. O fewn hynny mae nifer o feysydd gwahanol, felly mae'n cynnig ystod enfawr o gyfleoedd.

MATHAU O ROLAU

Dyma ychydig o enghreifftiau o’r rolau amrywiol sydd ar gael ym maes trafnidiaeth a logisteg:

  • Gyrwyr HGV
  • Mecanyddion
  • Technegwyr
  • Gwasanaethau bws, rheilffyrdd a thramiau (gan gynnwys gyrwyr)
  • Cynllunwyr trafnidiaeth
  • Gweithredwyr warws (gan gynnwys codwyr stoc a gweithredwyr loriau fforch godi)
  • Diogelwch
  • Gweinyddiaeth
  • Glanhawyr
  • Gwerthu a marchnata

MANTEISION O WEITHIO YM MAES TRAFNIDIAETH A LOGISTEG

  • Y sector logisteg yw un o’r ddiwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn y DU a dangosodd y pandemig gymaint yr ydym yn dibynnu arno. Ar hyn o bryd mae tua 1.7 miliwn o bobl yn gweithio yn y sector.
  • Mae gan y sector ystod eang o rolau, felly mae cyfleoedd ar gael i ddatblygu a chynyddu enillion yn sylweddol.
  • Nid oes bob amser angen cymwysterau academaidd arnoch i gychwyn, ond mae cyfleoedd gwych i ymuno os oes gennych radd neu gymwysterau eraill i’ch enw.
  • Mae cyfleoedd i ddysgu ac adeiladu eich gyrfa hefyd – mae cymhlethdod cynyddol logisteg yn golygu bod llawer o reolwyr yn ymgymryd â chymwysterau Diplomas, NVQs neu Radd Meistr i wella eu sgiliau.
  • Mae cyfleoedd i fenywod mewn logisteg yn tyfu gyda llawer o gwmnïau yn ceisio cael mwy o fenywod i’r hyn sy’n cael ei ystyried yn ddiwydiant sydd wedi’i ddominyddu’n draddodiadol gan ddynion.
  • Mae ystod eang o oriau a phatrymau gwaith ar draws y diwydiant gyda nifer o staff yn gweithio’n rhan amser, a rhai rolau angen gwaith shifft. Gallai hyn fod yn addas i bobl sy’n chwilio am hyblygrwydd i gyd-fynd â’u hamgylchiadau gartref.
  • Edrychwch ar dudalen Generation Logistics am fwy o wybodaeth.
Dyn yn gyrru fforch godi mewn warws

Sgiliau Dymunol

Mae amrywiaeth enfawr o sgiliau y gallwch eu trosglwyddo drosodd i yrfa werth chweil mewn logisteg, gyda digon o gyfleoedd i ddatblygu eich gyrfa. 

Mae’r sgiliau trosglwyddadwy yn cynnwys: 

  • Sylw da i fanylion 
  • Y gallu i weithio’n annibynnol neu fel rhan o dîm mawr 
  • Sgiliau trefnu a rheoli amser rhagorol
  • Cymhelliad personol 
  • Y gallu i aml-dasgio 
  • Gallu meddwl ar eich traed a sgiliau datrys problemau rhagorol 

Dysgwch fwy am sgiliau a hyfforddiant sy’n seiliedig ar waith

DOLENNI PELLACH

  • Os ydych chi’n awyddus i gael y sgiliau i fynd i mewn i’r sector hwn neu eraill, mae Skills Bootcamps wedi’u cynllunio i’ch paratoi ar gyfer gyrfa.
  • Adult Skills Learning Offer – os nad oes gennych gymhwyster lefel 3 (Safon Uwch neu Lefel AS), efallai y byddwch yn gymwys i gael hyfforddiant am ddim gyda chyfleoedd yn y sector hwn ac eraill.
  • Os ydych rhwng 16-19 oed efallai y byddwch yn gymwys i wneud T-Level yn y sector hwn neu eraill.

Sectorau eraill sy’n cyflogi ar hyn o bryd