Neidio i’r cynnwys

Gweithgynhyrchu

 Mae'r sector gweithgynhyrchu yn y DU yn cyflogi 2.7 miliwn o bobl ar draws mwy na 90,000 o gyflogwyr, ac mae cyflogau yn y diwydiant yn tueddu i fod yn uwch na chyflog cyfartalog y DU. Er mai cynhyrchu bwyd a diod yw un o feysydd mwyaf y sector hwn, mae llawer o gyfleoedd mewn cynhyrchu moduron, awyrofod a gwaith sy'n seiliedig yn y swyddfa.

Mathau o rolau

Mae gweithgynhyrchu yn rhan hanfodol o economi’r DU a gallai fod ganddo rôl sy’n addas i chi. Mae ganddo ystod amrywiol o swyddi, sy’n cynnig gwaith i bobl sydd ag ystod eang o sgiliau, talentau, a chefndiroedd. Cymerwch olwg ar y mathau o rolau gallech ddechrau ynddi.

Mae yna lawer o swyddi sydd angen ychydig o brofiad neu ddim profiad, ac mae hyfforddiant ar gael yn y swydd fel arfer. Bydd rhai cyflogwyr gweithgynhyrchu yn cynnig cyfleoedd dysgu a datblygu drwy gydol eich gyrfa ac mae prentisiaethau hefyd ar gael yn y diwydiant.  

Mae’r rhan fwyaf o rolau gweithgynhyrchu yn cynnwys llawer mwy na gweithio ar linell gynhyrchu. Gyda chynhyrchu bellach yn cael ei awtomeiddio i raddau helaeth, gallwch hefyd weithio mewn cyfrifeg, marchnata, cyfryngau digidol a chymdeithasol, dylunio, gwaith labordy, caffael, a pheirianneg. 

Manteision o weithio mewn gweithgynhyrchu

  • Cyflogau uwch ar gyfartaledd na sectorau eraill
  • Gyrfaoedd ar gael mewn ardal lewyrchus o economi’r DU
  • Mae llawer o swyddi’n dechrau ar unwaith
  • Hyfforddiant, dysgu a datblygu yn y swydd
  • Mae amrywiaeth eang o rolau ar gael
Menyw mewn mwgwd wyneb, rhwyd gwallt a menig yn gweithio mewn amgylchedd di-haint

Sgiliau Dymunol

Nid oes angen unrhyw sgiliau penodol na phrofiad blaenorol ar lawer o swyddi. Fodd bynnag, mae’r ystod amrywiol o swyddi mewn gweithgynhyrchu yn golygu y bydd sgiliau a enillwyd mewn sectorau eraill yn gallu cael eu trosglwyddo.  

Mae yna rhai rolau mewn gweithgynhyrchu lle gofynnir am sgiliau perthnasol, cymwysterau, a phrofiad mewn pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg). 

Dysgwch fwy am sgiliau a hyfforddiant sy’n seiliedig ar waith

Sectorau eraill sy’n cyflogi ar hyn o bryd