Neidio i’r cynnwys

Lletygarwch

Gallai gweithio ym maes lletygarwch olygu amrywiaeth o yrfaoedd mewn bwytai, bariau, gwestai, lleoliadau adloniant neu glybiau nos. Mae nifer fawr o swyddi gwag ar gael ym mhob rhanbarth o'r DU, ar hyn o bryd. Mae cyflogwyr yn gweithio'n agos gyda'r DWP i sicrhau bod anogwyr gwaith y Ganolfan Byd Gwaith sy’n agos atoch chi'n gwybod am y cwmnïau sy'n cyflogi.

MATHAU O GYFLEOEDD

Os ydych chi’n ddi-waith am gyfnod hir, neu os yw’ch amgylchiadau personol yn ei gwneud hi’n anoddach i chi ddod o hyd i swydd, bydd cyflogwyr lletygarwch yn aml yn ystyried eich rhoi chi ymlaen ar gyfer lleoliadau, profiad gwaith neu dreialon gwaith. Os ydych chi’n barod i ddarganfod pa anturiaethau all fod yn ddisgwyl amdanoch yn y sector lletygarwch, mae’r cyfleoedd yn aros amdanoch chi nawr! 

Mae amrywiaeth o broffesiynau medrus mewn lletygarwch, ac mae sawl un wedi’u cynnwys ar restr llwybr Gweithwyr Medrus y llywodraeth. Mae’r rhain yn cynnwys: 

  • Cogyddion 
  • Rheolwyr arlwyo a bar 
  • Rheolwyr hamdden a chwaraeon 
  • Rheolwyr a threfnwyr cynadledda ac arddangosfeydd
  • Tafarnwyr a rheolwyr adeiladau trwyddedig
  • Rheolwyr a pherchnogion bwyty a sefydliadau arlwyo 

MANTEISION O WEITHIO YM MAES LLETYGARWCH

Oeddech chi’n gwybod fod cyflog cyfartalog y sector lletygarwch yn dechrau rhwng £16,000 i £21,000? Ac mae’r ffigyrau yma’n codi. Mae digon o gyfleoedd ar ddyrchafiad yn bodoli ac mae llawer o bobl yn dechrau ar y gwaelod ac yn symud ymlaen i rolau rheoli ac arwain lle gall cyflogau fod yn £28,000 y flwyddyn. Mewn gwirionedd, mae’r rhan fwyaf o uwch reolwyr ym maes lletygarwch yn dod o rolau lefel mynediad. 

Mae hefyd cynnig hyfforddiant cadarn, ac mae llawer o gyflogwyr yn cysylltu â chynlluniau prentisiaethau ac hyfforddiant rheoli i’ch helpu i strwythuro eich datblygiad.   

Gall swydd ym maes lletygarwch roi llwyfan gwych i chi ar gyfer gyrfa mewn sectorau eraill hefyd, oherwydd gallwch ddysgu sgiliau cyllidebu cryf, adeiladu tîm a gwasanaeth cwsmeriaid yn ogystal â meithrin eich hyder a’ch sgiliau cyfathrebu, yn barod ar gyfer unrhyw rôl yn y dyfodol. 

Gall fod yn amgylchedd cymdeithasol gwych i weithio ynddo. Ac mae swyddi ym maes lletygarwch sy’n cynnig yr hyblygrwydd i weithio’n gynnar, gorffen yn hwyr neu weithio ar benwythnosau, yn ogystal â phatrymau gwaith mwy strwythuredig. Gyda lleoliadau lletygarwch ym mhob tref yn aml does dim angen i chi gymudo ymhell iawn, ac mae rhai cyflogwyr hyd yn oed yn cynnig llety. Mae yna swydd i bawb mewn gwirionedd!  

Am ragor o wybodaeth, ewch i  wefan CareerScope – canolfan benodol i bobl sy’n chwilio am rolau lletygarwch.

Gweinydd yn cario hambwrdd o ddiodydd

Sgiliau Dymunol

Does dim angen i chi gael unrhyw brofiad blaenorol, na chymwysterau ffurfiol, i weithio yn y sector lletygarwch. Y prif bethau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt mewn ymgeiswyr yw agwedd positif, ymarweddiad cwrtais a chyfeillgar, ac angerdd am wasanaeth cwsmer gwych. 

Dysgwch fwy am sgiliau a hyfforddiant sy’n seiliedig ar waith

DOLENNI PELLACH

  • Os ydych chi’n awyddus i gael y sgiliau i fynd i mewn i’r sector hwn neu eraill, mae Skills Bootcamps wedi’u cynllunio i’ch paratoi ar gyfer gyrfa.
  • Adult Skills Learning Offer – os nad oes gennych gymhwyster lefel 3 (Safon Uwch neu Lefel AS), efallai y byddwch yn gymwys i gael hyfforddiant am ddim gyda chyfleoedd yn y sector hwn ac eraill.
  • Os ydych rhwng 16-19 oed efallai y byddwch yn gymwys i wneud T-Level yn y sector hwn neu eraill.

Sectorau eraill sy’n cyflogi ar hyn o bryd