Neidio i’r cynnwys
Peiriannydd benywaidd yn sefyll o flaen tyrbin gwynt

Swyddi gwyrdd

Rolau sy'n cyfrannu at gadw neu adfer yr amgylchedd a'n planed yw swyddi gwyrdd. Gallech fod yn gweithio mewn sector traddodiadol fel gweithgynhyrchu neu adeiladu, neu mewn diwydiant gwyrdd newydd, sy'n dod i'r amlwg, megis ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni.

Beth ydyn ni'n ei olygu wrth swyddi gwyrdd

Wrth i economi’r DU ddod yn wyrddach, mae angen help ar rai diwydiannau i addasu eu cynnyrch a’u prosesau i leihau eu hallyriadau. Mae eraill yn gweithio ar dechnoleg werdd, er enghraifft cerbydau trydan a goleuadau LED. Mae rhai yn darganfod gweithgareddau gwyrdd hollol newydd i fynd i’r afael â newid hinsawdd. 

Mae hyn i gyd yn creu cyfleoedd gwaith newydd cyffrous. 

Mae swydd werdd yn berffaith os ydych yn mwynhau bod yn egnïol, gweithio yn y cefndir a chwilio am rôl amrywiol ond gwerth chweil. 

 

PA FATHAU O ROLAU SYDD AR GAEL?

Gyda swyddi yn y sector hwn yn cynnwys prentisiaethau ceidwaid cefn gwlad, arbenigwyr ynni clyfar, i osodwyr panel solar. Mae yna weithredwyr ailgylchu a thechnegwyr tyrbinau gwynt i beirianwyr cerbydau trydan, dadansoddwyr data a rheolwyr fferm, mae’r swyddi’n amrywiol. Bydd y swydd werdd rydych chi’n ei chymryd yn dibynnu ar eich diddordebau, eich sgiliau, eich profiad a’ch cymwysterau. 

Sgiliau a chymwysterau defnyddiol i’ch helpu i gael swydd werdd yw: 

  • TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg
  • cymhwyster achrededig ar Lefel 3 neu uwch
  • gwaith tîm da
  • hyblygrwydd
  • dealltwriaeth o iechyd a diogelwch
  • dealltwriaeth o gadwraeth natur

 

PA SECTORAU ALLECH CHI FOD YN GWEITHIO YNDDYNT?

Mae swyddi gwyrdd ar gael ar draws nifer o sectorau, gan gynnwys: 

  • Adeiladu
  • Egni a Mwyngloddio
  • Technolegau Ffasiwn
  • Cyllid
  • Gofal Iechyd
  • Gweithgynhyrchu
  • Ynni adnewyddadwy a’r amgylchedd
  • Cludiant

 

Manteision o weithio mewn swydd werdd

  • Mae’n ddiwydiant hygyrch – mae gan rai swyddi gwyrdd rolau lefel mynediad
  • Bydd cyfle i chi ennill sgiliau newydd a/neu gymwysterau.
  • Sicrhau’ch gyrfa yn y dyfodol – mae sgiliau gwyrdd yn drosglwyddadwy ar draws sectorau.
  • Byddwch yn helpu i hyrwyddo datblygiad cynaliadwy ac yn chwarae rhan yn y gwaith o ddatgarboneiddio economi’r byd.
  • Mae swyddi gwyrdd yn gwarchod ac yn adfer yr amgylchedd er lles pawb.
Peiriannydd yn dangos i brentis sut i ddefnyddio peiriant creu offer

Ydych chi'n ystyried swydd werdd?

Gydag ystod o rolau a chyfleoedd ar gael, mae swydd werdd yn yrfa gyffrous ac amrywiol. P’un a ydych chi’n dechrau yn eich gyrfa, yn edrych i symud ymlaen neu’n meddwl am newid sectorau, mae llawer o lefydd i ddod o hyd i’ch cyfle gwaith nesaf. 

Nid oes rhaid i chi fod yn fio-wyddonydd neu’n ecolegydd i gael swydd werdd. Mae’r sector hefyd angen pobl sydd â sgiliau adeiladu, marchnata, gwerthu a rheoli prosiectau i enwi dim ond rhai. 

Dysgwch fwy am sgiliau a hyfforddiant sy’n seiliedig ar waith

Sectorau eraill sy’n cyflogi ar hyn o bryd