Neidio i’r cynnwys

Amaethyddiaeth

Mae cymaint mwy i weithio ym myd amaethyddiaeth nag y byddech chi'n ei feddwl. Efallai nad ydych wedi ei ystyried fel opsiwn o'r blaen, ond fe allech chi synnu faint o wahanol rolau y mae'r sector amaethyddiaeth yn eu cynnig.

MATHAU O ROLAU

Ceir amrywiaeth eang o gyfleoedd o fewn amaethyddiaeth, gan gynnwys:

  • Gweithwyr fferm – gwneud y gwaith ymarferol ar fferm, megis plannu a chynaeafu cnydau a gofalu am anifeiliaid.
  • Rheolwyr fferm – rheoli gweithrediad dyddiol ffermydd.
  • Gwerthiant amaethyddol – gwerthu nwyddau gwahanol i ffermydd megis bwyd anifeiliaid, gwrtaith a pheiriannau.
  • Prynwyr grawn – prynu’r cnydau pan fyddan nhw’n cael eu cynaeafu.
  • Trafnidiaeth a logisteg – i gael cynnyrch i warysau a marchnadoedd.

Yn ogystal, mae yna wahanol swyddi gwyddonol ym myd amaethyddiaeth gan gynnwys arbenigwyr planhigion, maethegwyr anifeiliaid a pheirianwyr. Mae ffermio modern hefyd angen cefnogaeth gan ymgynghorwyr busnes a gweinyddwyr.

Mae swyddi gwag ledled y DU ar gael ym maes ffermio, cynhyrchu bwyd a gweithgynhyrchu. Ewch i wefan Staffline i ddod o hyd i swyddi gwag mewn cynhyrchu bwyd ledled y wlad. Ar gyfer swyddi gwag ffermio ewch i Dod o hyd i swydd a The Farmers Weekly a gwrandewch ar stori Joe am symud o fanwerthu i ffermio.

MANTEISION O WEITHIO MEWN AMAETHYDDIAETH

  • Mae amrywiaeth eang o rolau ym myd amaethyddiaeth ar gael ledled y wlad – o gasglwr a phacwyr ffrwythau i beirianwyr a rolau gweinyddol.
  • Mae’r galw am weithwyr fferm yn uchel ar adegau penodol o’r flwyddyn, er enghraifft, o gwmpas cynaeafu. Os oes gennych ddiddordeb mewn swydd dymhorol, gallai gwaith fferm fod i chi.
  • Mae rolau gweithwyr fferm, fel cynaeafu a phigo, yn wych i’r rhai sy’n hoffi bod yn yr awyr agored a chadw’n heini’n gorfforol.
  • Mae’r boblogaeth fyd-eang yn ehangu, felly mae’r galw am amaethyddiaeth ond yn mynd i godi, ac er bod rhai rolau’n canolbwyntio ar gwrdd ag anghenion critigol, gall gweithio yn y diwydiant hwn hefyd ddarparu diogelwch swydd a gyrfa hirdymor.
Llaw yn dal bwced o afalau wedi’u casglu

Sgiliau Dymunol

Mae llawer o sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer rolau ym myd amaethyddiaeth, gan gynnwys y gallu i weithio’n dda gydag eraill, sylw i fanylion a sgiliau cyfathrebu. 

Dysgwch fwy am sgiliau a hyfforddiant sy’n seiliedig ar waith

DOLENNI PELLACH

Sectorau eraill sy’n cyflogi ar hyn o bryd