I gael eich swydd gweithiwr gofal cyntaf, y cyfan sydd ei angen arnoch yw’r rhinweddau cywir, yn hytrach na chymwysterau penodol. Mae llawer o swyddi gofal i oedolion ar lefel mynediad, gan gynnwys gofal cartref, rolau mewn cartrefi gofal a rolau gofalwyr sy’n byw gyda’r cleient. Maent i gyd yn cynnig hyfforddiant yn y swydd i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau a’ch hyder wrth i chi weithio.
Gan fod llawer o wahanol rolau swyddi ym maes gofal cymdeithasol i oedolion, bydd rhywbeth i chi, mae wir yn dibynnu beth sydd gennych ddiddordeb ynddo, pwy rydych chi eisiau gweithio gyda a lle rydych chi eisiau gweithio.
Gallwch weithio mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys mewn cartref gofal preswyl, yng nghartref rhywun arall, neu hyd yn oed eich cartref eich hun, gan gefnogi pobl drwy’r cynllun Cysylltu Bywydau
Mae rolau gweithwyr gofal yn cynnwys:
- Gweithwyr gofal – gweithio gyda phobl sydd angen gofal a chymorth uniongyrchol
- Gweithiwr cymorth gweithgareddau – trefnu gweithgareddau cymdeithasol a helpu pobl i gymryd rhan
- Cynorthwyydd personol – wedi’u cyflogi’n uniongyrchol gan unigolyn i’w helpu i fyw yn annibynnol
- Cymorth adsefydlu – helpu pobl sy’n gwella ar ôl damwain neu salwch
- Mae gofalwyr Cysylltu Bywydau yn agor eu cartrefi i rywun sydd angen gofal a chymorth. Gallai fod am ddiwrnod, egwyl fer, neu fyw gyda chi fel rhan o’ch teulu dros y tymor hir.
Mae llawer o rolau ategol hefyd ar gael, fel:
- Rolau gweinyddol / swyddfa – derbynyddion, swyddi cyllid a phersonél
- Gwasanaethau ategol – staff arlwyo a glanhau, gyrwyr a phersonél cynnal a chadw.
Darganfyddwch fwy ar wefan gofal cymdeithasol i oedolion