Os ydych yn gyflogai, mae gennych hawl statudol (cyfreithiol) i ofyn am weithio’n hyblyg o ddiwrnod cyntaf eich cyflogaeth.
Bydd gennych hawl i ddau gais y flwyddyn – a bydd angen i gyflogwyr ymateb o fewn dau fis.
Gall eich cyflogwr dderbyn, derbyn yn rhannol neu wrthod eich cais yn seiliedig ar anghenion y busnes.
Cael sgwrs gyda’ch cyflogwr yn gyntaf
Cyn ysgrifennu cais ffurfiol i weithio’n hyblyg, yn gyffredinol mae’n syniad da i gael trafodaeth gyda’ch cyflogwr.
Wrth wneud hyn gallwch:
- Ddweud wrthynt am eich bwriad i gyflwyno cais statudol i weithio’n hyblyg
- Gofyn am bolisi gweithio hyblyg y cwmni
- Esbonio pam mae angen trefniant newydd arnoch ar gyfer eich oriau gwaith (er enghraifft, gofal plant neu gyfrifoldebau gofalu, lleihau cost ac amser eich taith i’r gwaith, ymddeol yn raddol) a sut y gallai hyn gael effaith gadarnhaol ar eich lles a’ch cynhyrchiant
- Dangos eich bod wedi deall y cyfnodau gwaith dwys ac ysgafn yn ystod yr wythnos, a’ch bod yn hyblyg a’n fodlon cyfaddawdi er mwyn osgoi unrhyw golled mewn cynhyrchiant.
Gelwir dangos sut bydd y patrwm gweithio hyblyg yn eu elwa hwy yn ogystal â chi yn ‘creu achos busnes’
Gwneud cais ffurfiol
Ar ôl y sgwrs gychwynnol hon gyda’ch cyflogwr, mae’n amser rhoi eich cais ffurfiol yn ysgrifenedig. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am wneud cais gweithio hyblyg ar wefan acas (gwefan allanaol) gan gynnwys templed llythyr cais. Mae yna hefyd fwy o wybodaeth ar weithio hyblyg ar gov.uk (gwefan allanol).
Dylai eich cyflogwr ymateb i’ch cais o fewn 3 mis o wneud y cais ysgrifenedig. Gallai gymryd yn hirach os ydych wedi cytuno hwn gyda nhw.
Os ydych yn rhiant neu’n gofalwr sydd eisiau newid eich oriau gwaith, gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar weithio hyblyg gan Working Families (gwefan allanol).