Neidio i’r cynnwys

Gwneud eich CV yn ddeniadol – awgrymiadau i bobl dros 50 oed

Mae’r cyngor ar ein tudalen ‘Gwneud i’ch CV sefyll allan’ yn ddefnyddiol i bawb sy’n gwneud cais am swydd newydd. Mae sicrhau bod eich CV yn glir ac yn gryno, wedi’i deilwra i bob swydd, ac yn gywir ac yn broffesiynol yn berthnasol p’un a ydych yn 25 neu’n 55.

Ond os ydych chi dros 50 oed ac yn chwilio am swydd, efallai y bydd gennych gwestiynau ychwanegol am ysgrifennu neu ddiweddaru eich CV. Efallai eich bod wedi bod allan o’r farchnad swyddi ers tro a’ch bod yn poeni na fydd gan gyflogwyr ddiddordeb. Neu efallai eich bod yn meddwl y bydd eich oedran yn mynd yn eich erbyn.

Peidiwch â phoeni. Dyma rai awgrymiadau ar sut i fynd i’r afael â rhai o’r cwestiynau ychwanegol hynny i sicrhau bod eich CV yn addas.

Mae gen i lawer o brofiad, ond rydw i’n mynd i gael fy niystyru’n gyflym oherwydd fy oedran.

  • Mae llawer o fusnesau yn chwilio am weithwyr gyda phrofiad a sgiliau bywyd. Edrychwch ar rai dyfyniadau gan gyflogwyr mawr.
  • Mae’n debygol iawn bod gennych chi’r sgiliau a’r profiad y mae cyflogwr eu heisiau, ond mae angen i chi sicrhau bod eich CV yn nodi’r rhain. Dewiswch eiriau allweddol o’r hysbyseb swydd a chyfatebwch eich profiad yn eu herbyn. Canolbwyntiwch ar y rhai mwyaf perthnasol ac amlygwch eich cryfderau. Peidiwch â bod ofn gadael unrhyw beth llai pwysig allan.
  • Nid oes angen i chi roi eich oedran ar eich CV neu ffurflen gais. Nid oes angen i chi roi dyddiadau yn erbyn eich hanes gwaith chwaith. Os oes angen i chi sôn am gymwysterau ysgol, defnyddiwch ‘TGAU’ yn hytrach na ‘lefelau O’. Peidiwch â defnyddio ymadroddion fel ‘dros nifer o ddegawdau’.
  • Defnyddiwch ffont / ffurfdeip glân a modern fel Arial a chadwch at benawdau ac adrannau CV safonol. Mae amrywiaeth o dempledi am ddim y gallwch eu defnyddio (chwiliwch ar-lein am ‘free CV templates UK’).

Os byddaf yn cynnwys fy holl hanes gwaith a phrofiad, bydd fy CV yn rhy hir.

  • Gall penderfynu faint o hanes gyrfa i’w gynnwys fod yn arbennig o heriol i rywun sydd wedi gweithio ers amser maith.
  • I ddod o hyd i’r cydbwysedd cywir, cadwch at y diweddar a’r perthnasol. Dylech geisio cyfyngu eich hanes gwaith i’r 10 i 15 mlynedd diwethaf. Gwelwch a allwch chi grwpio rhai swyddi gyda’i gilydd, er enghraifft, gallech chi ddweud ‘rolau amrywiol mewn lletygarwch’.
  • Ond mae’n bwysicach canolbwyntio ar y profiad sydd gennych sydd fwyaf perthnasol i’r swydd yr ydych yn ymgeisio amdani, hyd yn oed os oedd dros 15 mlynedd yn ôl.

Mae’r broses ymgeisio yn rhy hir a chymhleth.

  • Mae chwilio a gwneud cais am swyddi yn cymryd amser. Bydd paratoi eich CV yn gynnar yn eich helpu i arbed amser yn y tymor hir. Bydd angen i chi deilwra’ch CV ar gyfer pob cais am swydd, ond os oes gennych un yn barod, mae gwneud newidiadau i hwnnw’n gyflymach na dechrau o’r dechrau bob tro.
  • Gall cynllunio’ch chwiliad swydd wella’ch cyfle o ddod o hyd i waith yn gynt a helpu i’ch cadw’n frwdfrydig ac yn wydn. Darganfyddwch fwy ar ein tudalennau ‘Cynllunio Chwilio am Swydd’.

Bydd cyflogwr yn meddwl na fydd gennyf y sgiliau TG a thechnoleg diweddaraf.

  • Peidiwch â diystyru eich hun. Efallai bod gennych chi fwy o sgiliau nag yr ydych chi’n meddwl.
  • Eisteddwch a rhestrwch yr hyn rydych wedi’i wneud gan ddefnyddio TG. Ac nid dim ond mewn swyddi blaenorol. Meddyliwch am bethau rydych chi’n eu gwneud yn eich bywyd personol, eich hobïau ac ar gyfryngau cymdeithasol. Gwnewch y mwyaf ohonynt.
  • Os teimlwch fod angen i chi adnewyddu eich sgiliau TG, mae llawer o gyrsiau am ddim ar-lein neu yn eich ardal leol. Cymerwch olwg ar ein tudalennau ar sgiliau i gychwyn arni.
  • Mae technoleg yn bwysig mewn llawer o swyddi, ond nid ym mhob un. Mae cymaint o swyddi o hyd sydd angen, er enghraifft, sgiliau pobl gwych (fel lletygarwch neu ofal cymdeithasol).

Os ydych chi wedi cael cynnig cyfweliad, edrychwch ar ein hawgrymiadau cyfweliad ar gyfer pobl dros 50 oed