Prif awgrymiadau
- Paratoi ac ymarfer. Ymchwiliwch i’r cwmni a’r brentisiaeth maent yn ei gynnig. Meddyliwch am y cwestiynau y gallai gael eu gofyn a pharatowch eich atebion.
- Meddyliwch pam rydych yn mynd am brentisiaeth yn hytrach na, dyweder, swydd arferol. A beth ydych yn ei hoffi am y rôl benodol rydych wedi gwneud cais amdani?
- Ymarferwch eich atebion. Dywedwch nhw’n uchel wrth ffrind neu aelod o’r teulu. Gall hyn leihau nerfau ac adeiladu eich hyder.
- Bydd y rhan fwyaf o bobl yn mynd yn nerfus cyn cyfweliad. Mae’n naturiol, ond mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i’ch helpu i gadw’n gyffyrddus ac yn hyderus.
- Mae ein cyngor cam wrth gam ar fod eich gorau mewn cyfweliadau yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer paratoi a sut i ddangos i gyflogwr eich bod yn addas iawn ar gyfer y rôl.
Eisiau gwybod mwy?
Os ydych angen cyngor pellach neu ond eisiau siarad â rhywun am brentisiaethau, dewch o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer Cymru (gwefan allanol), Lloegr (gwefan allanol), ar Alban (gwefan allanol).
Gallwch ddarganfod mwy am opsiynau sgiliau eraill.