Symud eich recriwtio ymlaen
Angen cymorth i gyflogi staff?
Ganolfan Byd Gwaith helpu.
Mae gan ein timau cyflogwyr yr arbenigedd a’r wybodaeth sector i’ch darparu ag ymgeiswyr sy’n iawn i chi.
Rydym eisoes yn gweithio’n agos gyda miloedd o gyflogwyr ledled y wlad i’w helpu gyda’u hanghenion recriwtio, gan nodi ymgeiswyr addas ar ein llyfrau a allai fod yn berffaith addas.
Sut gall y Ganolfan Byd Gwaith helpu
Helpodd yr ymgyrch Ffordd i Waith ddiweddar dros 500,000 o geiswyr gwaith i mewn i waith, gyda llawer yn cymryd rolau mewn sectorau newydd, a llawer o gyflogwyr yn recriwtio trwy ganolfannau gwaith am y tro cyntaf.
Mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn parhau i weithio gyda chyflogwyr i hwyluso eu harferion recriwtio. Drwy gael rheolwyr cyflogi a cheiswyr gwaith o flaen ei gilydd mewn canolfannau gwaith rydym yn creu dull recriwtio ‘yn y fan a’r lle’, gan helpu pobl i gael gwaith yn gyflymach a lleihau costau llogi i gyflogwyr.
Os ydych yn chwilio am waith, cewch gymorth, hyfforddiant a chyngor ar ddod o hyd i’ch cyfle nesaf.
Os ydych yn gyflogwr, gallai’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig gynnwys:
- darparu cynghorydd cyflogwr penodol a fydd yn gweithio gyda chi i lenwi eich swyddi gwag
- rhoi cyngor ar ddisgrifiadau swydd i’w gwneud yn ddeniadol i ymgeiswyr
- gweithio gyda chi i symleiddio a chyflymu eich proses recriwtio, ac yn gyfnewid am hyn byddwch yn ceisio cynnig swyddi o fewn 48 awr i’r cyfweliad
- mynd ati i hyrwyddo eich swyddi gwag o fewn canolfannau gwaith lleol
- paru, cyn-sgrinio ac archebu cyfweliadau gwarantedig os ydych yn cytuno bod gan ein hymgeiswyr ar y rhestr fer fynediad blaenoriaethol i’ch swyddi gwag
- darparu mynediad i swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith i gynnal cyfweliadau
- eich gwahodd i fynychu digwyddiadau recriwtio cyflogwyr lleol a ffeiriau swyddi sector i hyrwyddo eich swyddi gwag
- darparu cyfleoedd rhwydweithio i gysylltu â busnesau lleol eraill
- adolygiadau ar ôl recriwtio, i drafod cymorth parhaus ac ymgyrchoedd recriwtio yn y dyfodol.
Hefyd gallwch hysbysebu eich swyddi drwy ein gwasanaethau ar-lein sy’n cael eu defnyddio gan filoedd o geiswyr gwaith bob wythnos.
“Byddwn i’n dweud wrth gyflogwyr eraill sydd am lenwi eu swyddi gwag, i ddefnyddio’r Ganolfan Byd Gwaith, am ei fod yn ffordd ymlaen wych i waith”
Susan McKeown Rheolwr Logisteg Rhanbarthol, Clipper Logistics
Cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith
I gael gwybod sut y gall y Ganolfan Byd Gwaith eich helpu i ddiwallu eich anghenion recriwtio, cysylltwch â ni heddiw.
Ar-lein
Gallwch gysylltu â Gwasanaethau Cyflogwyr gan ddefnyddio’r ffurflen ymholiadau ar-lein
Dros y ffôn
Ffôn: 0800 169 0178
Ffôn testun: 0800 169 0172
Gwasanaeth cyfnewid fideo ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) – Gwiriwch y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar gyfrifiadur personol neu liniadur neu os ydych yn defnyddio ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Cael gwybod am daliadau galwadau
Fel arall, os oes gennych ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am y fenter Ffordd i Waith, trefnwch eich lle am ddim yn ein Sesiynau Gwybodaeth i Gyflogwyr sydd ar y gweill.
“Rwy’n falch o’r berthynas gref rwy’n ei meithrin gyda’r cyflogwyr, gan ddarparu gwasanaeth un-i-un a dod o hyd i’r ateb gorau i’w hanghenion recriwtio fel rhan o Ffordd i Waith”
Claire, Cynghorydd Cyflogwyr
Eich cysylltu ag ymgeiswyr
Drwy weithio gyda’r Ganolfan Byd Gwaith gallwch gysylltu’n gyflym â chronfa amrywiol o ymgeiswyr ledled y DU sy’n chwilio am waith neu i wella eu gyrfaoedd. Gallwn hefyd eich cefnogi drwy:
- sefydlu treialon gwaith i roi cyfle i chi weld pa ddarpar recriwtiaid sydd i’w cynnig
- cyngor am gynnig profiad gwaith a phrentisiaethau
- cynlluniau cyflogaeth eraill gan gynnwys Rhaglenni Academi Gwaith yn y Sector a mentora busnes
- help os ydych yn cyflogi rhywun ag anabledd (Mynediad at Waith)
- canllawiau ar gyflogi rhywun ag anabledd neu gyflwr iechyd.