Mae Canolfan Byd Gwaith yn gweithio mewn partneriaeth â chynghorau lleol, elusennau a chyflogwyr i gynnig cefnogaeth wedi’i theilwra i’ch ardal. Mae hyn yn cynnwys cymorth a chyngor ar:
- dod o hyd i waith yn agos atoch
- gwella eich CV
- paratoi ar gyfer cyfweliadau
- gwneud cais am swyddi ar-lein
- deall Credyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill
- darganfod mwy am ein gwasanaethau symudol a beth i’w ddisgwyl pan fyddwch yn ymweld.
Dysgwch fwy am ein gwasanaethau symudol a beth i’w ddisgwyl pan fyddwch chi’n ymweld.
Dewis eich amserlen leol
Mae’r gwasanaeth newydd hwn ar gael mewn nifer fach o ardaloedd yng Nghymru.
Dewch o hyd i’ch ardal i weld dyddiadau, amseroedd a lleoliadau sydd i ddod ar gyfer ein hymweliadau fan symudol. Rydym yn diweddaru’r amserlenni hyn yn aml, felly gwiriwch eto cyn teithio.