Hygyrchedd
Mae gan ein faniau Ganolfan Byd Gwaith symudol y canlynol:
- rampiau a mynediad hygyrch
- WiFi i helpu gyda cheisiadau ar-lein
- Trin gwybodaeth bersonol yn ddiogel
Os oes gennych anghenion hygyrchedd penodol, rhowch wybod i aelod o’r tîm pan fyddwch yn cyrraedd.
Yr hyn sydd angen i chi dod gyda chi
Os gallwch, dewch:
- â’ch CV os oes gennych un
- â’ch manylion hanes gwaith
- ag unrhyw ddogfennau sy’n gysylltiedig â chais budd-dal neu gais am swydd
Gallwch ymweld â ni o hyd os nad oes gennych yr eitemau hyn.
Newidiadau i’r gwasanaeth
Weithiau, efallai y bydd angen i ni ganslo neu newid ymweliad ar fyr rybudd. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn diweddaru tudalen amserlen yr ardal cyn gynted â phosibl.
← Ewch yn ôl i’r dudalen ‘Amserlen y Ganolfan Byd Gwaith Symudol’