Neidio i’r cynnwys
Athro yn siarad ag un o'i fyfyrwyr meithrin

Gofal Plant ac Addysg Blynyddoedd Cynnar

Mae gyrfa mewn gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar yn rhoi boddhad ac yn llawn amrywiaeth. Mae’n rhoi'r cyfle i chi helpu plant ifanc i dyfu a ffynnu, wrth iddynt fynd o fod yn faban i'r cyfnod cyn-ysgol.

Mathau o rolau

(Os ydych yn chwilio am wybodaeth ar help gyda chostau plant, darganfyddwch fwy ar ein tudalen costau gofal plant a chefnogaeth ar gyfer teuluoedd.)

Gall gweithio ym maes gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar fod yn yrfa hynod foddhaus a gwerth chweil. Cewch gyfle i wneud gwahaniaeth i fywydau plant a chwarae rhan allweddol yn eu tyfiant a’u datblygiad. Trwy addysg a chwarae, byddwch yn helpu i osod sylfeini a dysgu sgiliau defnyddiol i blant sy’n eu paratoi ar gyfer yr ysgol ac yn ddiweddarach mewn bywyd.

Mae nifer o wahanol rolau y gallech eu hystyried:

  • Mae Gweithwyr Meithrinfa yn helpu babanod a phlant hyd at 5 oed i ddatblygu a dysgu mewn lleoliad diogel a chefnogol. Gallwch ddod yn weithiwr meithrinfa trwy ennill cymhwyster o gwrs coleg neu brentisiaeth, neu gallwch wneud cais yn uniongyrchol.
  • Mae Rheolwyr Meithrinfa yn rhedeg canolfannau gofal plant blynyddoedd cynnar, gan gydlynnu gofal ac addysg. Mae llawer o bobl yn dechrau fel gweithiwr meithrinfa, ac yna’n symud i rôl reoli. Fel arfer byddwch angen o leiaf dwy flynedd o brofiad o weithio mewn lleoliad gofal plant, neu gallwch wneud cais yn uniongyrchol gyda gradd prifysgol mewn datblygiad plant neu gymwysterau coleg cysylltiedig eraill.
  • Mae Gwarchodwyr plant yn cynnig addysg gynnar a gofal plant proffesiynol yn eu cartrefi eu hunain, gan gefnogi’r dysgu a’r datblygiad cynnar i blant o bob oed. Mae’n rhaid i chi naill ai gofrestru gydag Ofsted (gwefan allanol) neu asiantaeth gwarchodwr plant (gwefan allanol). Gall gwarchodwyr plant newydd wneud cais am grantiau cychwyn busnes (gwefan allanol) (£600 os ydych yn cofrestru gydag Ofsted, neu £1,200 os ydych yn cofrestru gydag asiantaeth).

PRENTISIAETHAU

Mae prentisiaethau’n cynnig profiad ymarferol a hyfforddiant tuag at gymwysterau’r blynyddoedd cynnar, i gyd wrth ennill cyflog.

Mae dwy brentisiaeth blynyddoedd cynnar lefel mynediad, a gall y ddau fod yn addas hyd yn oed os nad oes gennych brofiad blaenorol:

  • ymarferydd blynyddoedd cynnar lefel 2
  • addysgwr blynyddoedd cynnar lefel 3

Darganfyddwch fwy o wybodaeth ar ein tudalen brentisiaethau neu chwiliwch am swyddi gwag prentisiaethau yn eich ardal ar Dod o hyd i Brentisiaeth (gwefan allanol).

Manteision gweithio mewn gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar

  • Rydych yn chwarae rhan hanfodol i helpu plant i dyfu, datblygu a chyrraedd cerrig milltir pwysig
  • Y cyfle i ddysgu sgiliau newydd a defnyddiol iddynt a fydd yn effeithio arnynt am weddill eu bywydau
  • Mae plant yn eich edmygu fel model rôl cadarnhaol
  • Mae’n hwyl! Byddwch yn cael bod yn greadigol ac ysbrydoli meddyliau ifanc
  • Mae pob diwrnod yn wahanol
  • Rydych yn meithrin perthnasoedd ymddiriedaeth nid yn unig gyda’r plant, ond hefyd gyda’u teuluoedd
  • Mae amrywiaeth eang o rolau, o fynediad i lefel uwch gyda chyfleoedd i arbenigo
  • Gyrfa hirdymor
  • Efallai y byddwch yn gallu gweithio’n hyblyg neu ddod yn hunangyflogedig
Menyw yn addysgu myfyrwyr meithrin

Sgiliau dymunol

Mae gweithio gyda phlant yn gofyn am ystod eang o sgiliau a galluoedd. Mae rhai rolau yn gofyn am brofiad, y gallwch eu hennill drwy astudio, gwirfoddoli, neu ond trwy fod yn rhiant neu nain neu daid.

Dylech hefyd gael y priodoleddau personol canlynol:

  • Diddordeb mewn gweithio gyda phlant
  • Bod yn greadigol ac yn ddychmygus
  • Agwedd ofalgar, caredig ac empathig
  • Amynedd
  • Ymdeimlad o hwyl
  • Brwdfrydedd
  • Y gallu i gynllunio a chyflwyno gweithgareddau sy’n ddiddorol ac yn ddeniadol i blant
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol – gydag oedolion a phlant

Dysgwch fwy am sgiliau ar gyfer opsiynau gwaith

Dolenni Pellach

Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol yn darparu gwybodaeth fanylach, gan gynnwys cyflogau, ar rolau gwaith mewn gofal plant ac addysg gynnar. Er enghraifft:

Gweithiwr meithrinfa (gwefan allanol)

Rheolwr meithrinfa (gwefan allanol)

Gwarchodwr plant (gwefan allanol)

Gallwch gael gwybod am y gwahanol gymwysterau sydd eu hangen a’r llwybrau dysgu y gallech eu dilyn ar y Llwybr Dysgu (gwefan allanol).

Cynnig Dysgu Sgiliau Oedolion (gwefan allanol) – os nad ydych eto wedi ennill cymhwyster lefel 3, efallai y byddwch yn gymwys i gael hyfforddiant am ddim gyda chyfleoedd yn y sector hwn ac eraill.

Os ydych rhwng 16 a 19 oed, efallai y byddwch yn gymwys i ymgymryd â Lefel T (gwefan allanol) mewn Addysg a Blynyddoedd Cynnar.

Sectorau eraill sy’n cyflogi ar hyn o bryd