Neidio i’r cynnwys

Cymorth i ofalwyr

Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth a chyngor os ydych yn ofalwr ac eich bod yn pwyso a mesur eich opsiynau gwaith neu’n edrych i ddatblygu eich sgiliau.

Dychwelyd i’r gwaith

Os ydych yn ystyried cyfuno gofalu gyda gwaith, neu os yw eich cyfrifoldebau gofalu yn newid a’ch bod yn dymuno dychwelyd i’r gwaith, dyma rai awgrymiadau defnyddiol ar gymryd y camau nesaf.

  • Os nad ydych yn siwr ble i ddechrau gyda chwilio am swydd, dilynwch ein pedwar cam hawdd i wella’ch siawns o ddod o hyd i waith – o ddarganfod beth rydych chi’n dda yn ei wneud, i ysgrifennu eich CV ac i wneud cais am swyddi.
  • Os ydych yn ofalwr neu’n gyn-ofalwr, gallech fod yn gymwys i gael cymorth personol gyda chwilio am waith. Er enghraifft, efallai y cewch gymorth gyda chysylltu â chyflogwyr, paru eich sgiliau â swyddi gwag cyfredol, neu gael mynediad at hyfforddiant. Darganfyddwch fwy o wybodaeth ar Rhaglen Gwaith ac Iechyd (gwefan allanol).
  • Mae rhai diwydiannau yn recriwtio ar hyn o bryd ac mae ganddynt fwy o swyddi ar gael nag eraill. Gallwch ddarllen mwy am y rhain ar ein tudalennau sectorau. Mae gwybodaeth hefyd i’ch helpu i gychwyn mewn diwydiant nad ydych wedi gweithio ynddo o’r blaen.
  • Angen diweddaru eich CV neu greu un newydd? Gall ein tudalen CV a llythyrau eglurhaol
  • Defnyddiwch y gwasanaeth Dod o Hyd i Swydd (gwefan allanol). Gyda Dod o Hyd i Swydd gallwch greu proffil, llwytho eich CV a derbyn rhybuddion e-bost am swyddi newydd a swyddi presennol mewn sector sy’n addas i chi.
  • Mae digon o safleoedd swyddi eraill ar gael hefyd. Rhowch gynnig ar chwilio am ‘jobs’ yn Google neu gwnewch eich chwiliad yn fwy penodol i ddod o hyd i’r swyddi gwag cywir i chi, fel ‘swyddi manwerthu yn Llandudno’.
  • Gall y pecyn cymorth hwn (gwefan allanol) gan Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth ddarparu cefnogaeth a gwybodaeth ychwanegol os ydych wedi cael amser i ffwrdd o’r gwaith.

Gweithio’n hyblyg

  • Os nad ydych yn gallu gweithio’n llawn amser, nid yw’n golygu na allwch weithio o gwbl.
  • Mae llawer o gyflogwyr yn cynnig gweithio hyblyg sy’n cynnwys rhannu swyddi ac oriau rhan amser, felly gallwch barhau i weithio ac ennill mewn ffordd sy’n gyfleus i chi. Efallai y byddant hefyd yn cynnig y cyfle i weithio gartref neu mewn lleoliad sy’n gyfleus i chi.
  • Darganfyddwch fwy am y mathau o drefniadau hyblyg sydd ar gael a sut y gallent eich helpu ar ein tudalen gweithio hyblyg.

Datblygu eich sgiliau

Gallai’r sgiliau a’r profiad rydych wedi’u casglu ar hyd eich bywyd gwaith fod o werth mawr i gyflogwyr. Ond efallai y byddwch eisiau adnewyddu neu adeiladu ar rai o’r sgiliau hynny, neu efallai roi cynnig ar rywbeth hollol newydd. Dyma rai opsiynau sydd ar gael i bobl o bob oed.

  • Mae’r wefan Sgiliau am Oes (gwefan allanol) yn gallu eich helpu i ddod o hyd i  gyfleoedd dysgu a chymwysterau newydd er mwyn gwella’ch cyfle i ddod o hyd i waith.  Mae hyn yn cwmpasu pob math o ddysgu, o gyfleoedd gloywi byr i ‘Skills Bootcamps’ ar gyfer sectorau penodol, i brentisiaethau lle rydych yn dysgu wrth wneud gwaith go iawn.
  • Darganfyddwch fwy am gyfleoedd sy’n eich galluogi i weithio tra’n hyfforddi ar ein tudalen Sgiliau a hyfforddiant yn y gwaith.