Prif awgrymiadau
- Os ydych yn llwyddiannus ac yn cael cynnig y brentisiaeth, da iawn! P’un a ydych am dderbyn neu wrthod y cynnig, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud mewn modd amserol a chwrtais.
- Os ydych yn derbyn, cytunwch â’ch cyflogwr newydd beth sy’n digwydd nesaf a dyddiad cychwyn. Er enghraifft, cyn i chi ddechrau (gwefan allanol) bydd gennych asesiad cychwynnol gyda’ch cyflogwr a’ch darparwr hyfforddiant, a bydd angen i chi lofnodi cytundeb prentisiaeth a’ch cynllun hyfforddiant.
- Os nad ydych yn cael cynnig prentisiaeth, peidiwch â phoeni a pheidiwch â bod yn rhy galed arnoch chi’ch hun.
- Dysgwch o’r profiad ac unrhyw adborth a gewch. Gallai’r cyfle nesaf fod rownd y gornel.
Eisiau gwybod mwy?
Os ydych angen cyngor pellach neu ond eisiau siarad â rhywun am brentisiaethau, dewch o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer Cymru (gwefan allanol), Lloegr (gwefan allanol), ar Alban (gwefan allanol).
Gallwch ddarganfod mwy am opsiynau sgiliau eraill.