Rhybudd difetha! Y gyfrinach yw cael eich anadl dan reolaeth.
Rydym i gyd yn gwybod sut mae’n teimlo. Rydych chi wedi gwneud eich ymchwil. Rydych chi wedi ymarfer eich atebion cyfweliad am beth sy’n ymddangos mil o weithiau. Ond pan mae’n dod i’r cyfweliad ei hun, mae nerfau’n codi – o unman.
Mae hyn yn hollol arferol, ac mae’n dangos bod ots gennych! Ond gall hefyd dynnu sylw’r cyfwelwyr o’r atebion gwych rydych yn ceisio eu cael drosodd.
Y newyddion da?
Gall technegau anadlu hawdd eich helpu i gael eich hun i’r ffrâm meddwl gywir cyn cyfweliad, a hefyd eich helpu i adennill rheolaeth os ydych yn baglu yn ystod y cyfweliad ei hun.
Darllenwch ymlaen am rai awgrymiadau hawdd iawn y gallwch roi cynnig arnynt heddiw.
Cyn y cyfweliad: defnyddiwch eich bol
Mae ymchwilwyr (gwefan allanol) wedi canfod bod emosiynau gwahanol yn gysylltiedig â gwahanol fathau o anadlu, felly gall newid y ffordd rydych yn anadlu newid sut rydych yn teimlo.
Pan fyddwch yn profi llawenydd, mae eich anadl yn ddwfn ac yn gyson. Pan fyddwch yn teimlo’n flin neu’n bryderus, mae’ch anadl yn dod yn gyflymach ac yn is.
Gall ymarfer gwahanol ffyrdd o anadlu eich helpu i deimlo’n hapusach ac yn fwy hyderus.
Un dechneg syml iawn a gefnogir gan dystiolaeth (gwefan allanol) y gallwch roi cynnig arni heddiw yw anadlu bol. Rhowch gynnig ar hyn:
- Eisteddwch gyda’ch cefn yn syth, gan osod un llaw ar eich bol ac un ar eich calon.
- Anadlwch yn araf i mewn trwy’r trwyn a theimlo eich bol yn gwthio allan. Yn araf chwythwch allan drwy’r geg a theimlo’r bol yn tynnu i mewn.
Gall hyn leihau curiad y galon a’ch helpu i ymlacio.
Gallwch gyfuno hyn â rhywbeth o’r enw anadlu bocs. Rhowch gynnig ar hyn:
- Anadlwch allan yn araf, gan ryddhau’r holl aer o’ch ysgyfaint.
- Anadlwch i mewn trwy’ch trwyn wrth i chi gyfri’n araf i bedwar yn eich pen. Byddwch yn ymwybodol o sut mae’r aer yn llenwi eich ysgyfaint a’ch stumog.
- Daliwch eich anadl i gyfrif o bedwar.
- Anadlwch allan am gyfrif arall o bedwar.
- Daliwch eich anadl eto am gyfrif o bedwar.
- Ailadroddwch dair i bedair gwaith.
Mae hon yn ffordd wych a hawdd o dawelu’ch meddwl a gwella eich ffocws. Gall ychydig o ymarfer dyddiol eich helpu i deimlo’n dawelach yn gyffredinol, ac wrth gwrs mae’n hynod ddefnyddiol gwneud ychydig o ymarfer cyn i chi ddechrau eich cyfweliad.
Yn ystod y cyfweliad: defnyddiwch eich anadlu i gefnogi eich geiriau
Felly, rydych wedi cael eich hun mewn lle da cyn y cyfweliad. Ond beth allwch chi ei wneud i helpu i gadw’ch cŵl ar ôl iddo ddechrau?
Os ydych yn nerfus ac mae’ch anadl yn fas, gallwch redeg allan o wynt cyn i chi orffen hyd yn oed y frawddeg fyrraf. Gall cael eich anadlu’n iawn eich helpu i fynegi’ch hun yn dawel ac yn hyderus.
Rhowch gynnig ar yr ymarfer canlynol – gallai wneud byd o wahaniaeth.
- Wrth i chi baratoi i ateb cwestiwn, cymerwch anadl lawn i mewn.
- Dechreuwch eich ateb pan fyddwch chi’n dechrau anadlu allan.
- Wrth i chi siarad, ceisiwch gymedroli eich anadl, gan ei adael allan yn ddigon araf i gynnal eich geiriau, fel y gallwch gyrraedd diwedd eich brawddeg yn llyfn.
Bydd eich atebion yn dod drosodd yn gliriach a bydd eich llais yn swnio’n dawelach.
Efallai ei fod yn swnio’n rhyfedd, ond mae’r dechneg hon wedi’i chymharu â darn o sushi! Eich anadl yw’r haen ‘reis’ sy’n cefnogi’ch brawddeg, sef yr haen ‘pysgod’ ar ei ben. Os nad ydych yn hoff o sushi, mae cynhyrchion bwyd haenog eraill ar gael, er enghraifft, pizza, cacen neu lasagne.
Er bod y dechneg hon yn syml, gall helpu i ymarfer. Felly, os gallwch, yn y cyfnod cyn eich cyfweliad, gael eich ffôn clyfar allan a recordio eich hun yn siarad gan ddefnyddio’r dechneg hon (a meddwl am sushi, os yw’n helpu).
Dechreuwch trwy anadlu allan tra’n cyfrif yn araf: “1… 2… 3… 4… 5…” ac yna “Helo, fy enw i yw [eich enw]…”, cyn ymarfer rhai atebion cyfweliad. Gwrandewch yn ôl ar eich recordiadau – efallai y byddwch yn synnu faint mae newid y ffordd rydych yn anadlu wedi gwella’r ffordd rydych yn swnio.
Dyna fo i chi chi – ambell ffordd y gallwch anadlu eich ffordd i lwyddiant!
Nawr cymerwch anadl ddofn. Rydych yn barod.
Edrychwch ar ein hadran ar ‘wneud eich marc mewn cyfweliadau’ am fwy o awgrymiadau da.
Ewch i’r dudalen nesaf ‘Sut i fod yn hyfforddwr eich hun’ →
← Yn ôl i’r dudalen dewislen ‘Ifanc ac yn chwilio am waith?’