Neidio i’r cynnwys

A oes gennych eich canlyniadau? Am gael help â’ch camau nesaf?

group of young people

Efallai y bydd eleni’n teimlo’n wirioneddol wahanol i bobl sy’n derbyn eu canlyniadau arholiad, felly mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol wedi sefydlu llinell gymorth arbennig i helpu pobl ifanc (a’u rhieni neu ofalwyr) i weithio trwy eu camau nesaf.

Mae gan y llinell gymorth ymgynghorwyr gyrfaoedd proffesiynol ar gael i ddarparu cyngor ac arweiniad diduedd am ddim ar y gwahanol ddewisiadau sydd ar gael. Gallant helpu â:

  • Cyngor am yrfaoedd
  • Ail-eistedd neu ail-gymryd
  • Addysg barhaus – fel astudio mewn prifysgol neu goleg
  • Gwahanol ffyrdd o ddysgu – fel Prentisiaethau, Hyfforddeiaethau a NVQs
  • Cael swydd neu sefydlu mewn busnes

Gallwch siarad ag ymgynghorydd gyrfaoedd pwrpasol trwy ffonio 0800 100 900 neu ddefnyddio eu gwesgwrs (gwefan allanol).

Gwelwch lawer o gyngor hefyd ar wefan y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol (gwefan allanol) lle gallwch ymchwilio i yrfaoedd a chymharu’ch opsiynau ar gyfer y dyfodol.

Erthyglau