Neidio i’r cynnwys

Gweithio o bell

Mae gweithio o bell yn golygu gwneud swydd o leoliad nad yw’n prif weithle cyflogwr. Gallai hyn fod yn gweithio o gartref neu yn swyddfa leol cwmni.

Mae llawer o gyflogwyr bellach yn cynnig cyfleoedd ar gyfer gweithio hybrid neu rithiol. Mae hybrid yn golygu gweithio rhywfaint o’r amser o bell gan ddefnyddio technoleg ddigidol, a pheth amser yn mynd i’r gweithle. Mae rhithiol yn golygu gweithio o bell a pheidio â mynd i’r gweithle o gwbl.

Ydy gweithio o bell yn iawn i mi?

Os ydych chi’n meddwl am swyddi sy’n cynnig gweithio o bell, gwnewch yn siŵr ei fod yn iawn i chi. Dyma ychydig o gwestiynau i ofyn i chi’ch hun:

Ydych chi’n hoffi cyswllt personol, wyneb yn wyneb yn y gwaith?

  • Mae gweithio gydag eraill yn rhan bwysig o’r rhan fwyaf o swyddi. I lawer o bobl, cael perthnasoedd wyneb yn wyneb yw un o’r pethau gorau am fynd i’r gwaith.
  • Gall gweithio o bell fod yn rhy ynysig i rai pobl, a gall ei gwneud yn anoddach gweithio gydag eraill.
  • Mae’n bosibl gweithio fel rhan o dîm ‘rhithiol’, ond i rai nid yw’r un peth â chael perthnasoedd gwaith uniongyrchol.
  • Mae’n well gan rai pobl weithio o bell gan fod llai o wrthdyniadau ac maent yn osgoi’r cymudo dyddiol blinedig.

A oes gennych yr amgylchedd iawn i weithio gartref?

  • Gall gweithio gartref ei gwneud hi’n anoddach cadw gwaith a bywyd cartref ar wahân.
  • Allwch chi weithio heb darfu ar eraill yn y tŷ?
  • Sut byddai gweithio gartref yn effeithio ar eraill yn y cartref?
  • A fyddai gweithio gartref yn effeithio ar eich lles meddyliol a chorfforol? Mae’n bwysig gwneud amser i fynd allan o’r tŷ a chael ychydig o awyr iach ac ymarfer corff.

Rhoi’r pethau iawn yn eu lle

Os ydych chi’n meddwl am weithio gartref, naill ai drwy’r amser neu’n rhan o’r amser, bydd angen i chi gael rhai pethau sylfaenol i wneud iddo ddigwydd.

Sefydlwch eich man gwaith.

  • Cael lle tawel a phreifat ar gyfer eich gwaith.
  • Sicrhewch fod eich amgylchedd yn addas os bydd yn cael ei weld ar alwad fideo.
  • Sicrhewch fod eraill yn y cartref yn gwybod beth yw pwrpas eich lle gwaith a phryd y byddwch yn ei ddefnyddio.

Cael yr offer sydd ei angen arnoch.

  • Dylai eich cyflogwr roi’r offer sydd ei angen arnoch i wneud y gwaith, fel gliniadur neu ffôn symudol gwaith.
  • A yw eich cysylltiad rhyngrwyd yn addas ar gyfer y swydd? Ydy’r wi-fi yn gweithio yn eich gweithle?
  • A oes angen argraffydd a lle diogel arnoch i storio ffeiliau a phapurau?

Cytuno ar y rheolau gweithio.

  • Cytunwch gyda’ch cyflogwr ar eich oriau a’r amseroedd y disgwylir i chi weithio. Trafodwch unrhyw hyblygrwydd.
  • Gwnewch drefniadau ar gyfer cadw mewn cysylltiad â’ch rheolwr a’ch tîm.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu cael mynediad at unrhyw hyfforddiant sydd ei angen arnoch ar gyfer y swydd ac ar gyfer eich datblygiad yn y dyfodol.
  • Cytunwch ar reolau gyda chi’ch hun a cheisiwch gadw atynt. Cael amserlen waith glir. Gall helpu i gael amseroedd dechrau a gorffen rheolaidd.

Mae cyngor ac arweiniad ar eich hawliau wrth weithio gartref neu o bell ar gael gan Acas (gwefan allanol).

Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) gyngor i gyflogwyr a gweithwyr (gwefan allanol), yn ymwneud â materion fel asesiadau risg, iechyd meddwl, gweithio ar gyfrifiaduron gartref a gwneud yn siŵr bod eich amgylchedd gwaith cartref yn ddiogel.

Ewch i’r dudalen nesaf ‘Cymryd MOT Canol Oes’

Ewch yn ôl i’r dudalen dewislen ‘Gweithio hyblyg’