Mae yna nifer o ffyrdd a llefydd y gallwch chwilio am swydd. Efallai rydych yn gwybod ble mae’n rhaid i chi chwilio’n barod i ddod o hyd i’r swydd rydych ei eisiau, ond os nad ydych neu rydych am ehangu’ch chwiliad, dyma rhai awgrymiadau.
- Chwiliad swydd ar-lein – mae yna lawer o declynnau ar-lein i’ch helpu i ddod o hyd i swydd newydd. Mae chwiliadau swyddi ar-lein yn gyffredinol am ddim ac ar gael 24/7. Dylent fod yn un o’r llefydd cyntaf rydych yn chwilio am eich cyfle swydd nesaf.
- Defnyddiwch Dod o Hyd i Swydd (gwefan allanol). Gyda Dod o Hyd i Swydd gallwch greu proffil, lanlwytho’ch CV a derbyn hysbysiadau e-bost am swyddi newydd ac sy’n bodoli eisoes.
- Mae yna digon o wefannau swyddi eraill ar gael hefyd. Ceisiwch chwilio am ‘swyddi’ neu gwnewch eich chwiliad yn fwy penodol i ddod o hyd i’r swyddi gwag sy’n gywir i chi, fel ‘swyddi manwerthu yn Leeds’
- Gwefannau cyflogwyr – gwiriwch wefannau cwmnïau i weld os ydynt yn recriwtio – fel arfer mae gan gyflogwyr adran ‘Gyrfaoedd’ ar eu gwefan. Sicrhewch rydych yn gwirio yn aml neu’n ei ddilyn ar gyfryngau cymdeithasol.
- Asiantaethau recriwtio – cofrestrwch gydag asiantaethau recriwtio. Mae rhai asiantaethau’n arbenigo mewn sectorau neu fathau o waith penodol, fel manwerthu neu letygarwch. Gallwch chwilio am asiantaethau ar wefan Recruitment and Employment Confedaration (gwefan allanol).
- Cyfryngau cymdeithasol – mae nifer o gwmnïau nawr yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol at ddibenion recriwtio, felly mae defnyddio’r platfformau hyn ar gyfer eich chwiliad swydd yn eich gwneud yn fwy gweladwy i gyflogwyr. Dyma rhai pethau i chi drio:
- Creu cyfrif LinkedIn.. Mae’n eich galluogi i gysylltu â chyflogwyr sy’n hysbysebu ystod eang o swyddi.
- Dilynwch sefydliadau y mae gennych ddiddordeb mewn gweithio iddynt a chofrestrwch am hysbysiadau e-bost.
- Ymunwch â sgyrsiau ar-lein mewn ardaloedd lle mae gennych ddiddordeb gweithio ynddynt. Gall hwn agor y drws i gysylltiadau a chyfleoedd newydd.
- Gadewch i’ch cysylltiadau cyfryngau cymdeithasol gwybod eich bod yn chwilio am swydd.
- Digwyddiadau rhwydweithiau – cadwch lygad allan am ffair swyddi (neu ffair gyrfaoedd) lleol. Cadwch mewn cysylltiad â’ch Canolfan Gwaith lleol i weld os ydynt yn cynnal rhai.
- Y wasg leol/cenedlaethol – gallwch ddod o hyd i swyddi wag sy’n cael ei hysbysebu mewn papurau newydd o hyd, felly mae’n werth edrych.
- Cyflogwyr – os oes cwmnïau penodol yr hoffech weithio iddynt, cysylltwch â nhw’n uniongyrchol. Gall hwn fod dros y ffôn neu drwy e-bost i ddechrau. Neu gallwch anfon eich CV a llythyr eglurhaol. Er efallai na fydd unrhyw swyddi gwag ganddynt yn bresennol, maent nawr yn ymwybodol ohonoch ac rydych wedi ychwanegu at eich rhwydwaith o gysylltiadau.
- Canolfan Byd Gwaith lleol – os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol, gall eich anogwr gwaith eich helpu. Mae hefyd yn werth dilyn y Canolfan Gwaith ar gyfryngau cymdeithasol i ddarganfod am ddigwyddiadau a chyfleoedd sydd ar y gweill fel ffair swyddi.
- Ffrindiau a theulu – gadewch iddynt wybod eich bod yn chwilio am swydd. Yn aml gallant fod yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth a chefnogaeth. Er enghraifft, efallai gallant roi gwybodaeth fewnol ar bryd mae cwmnïau’n recriwtio neu os oes ganddynt swyddi gwag lle maent yn gweithio. Efallai gallant hyd yn oed rhoi cyfeiriad i gwmni i chi, neu eich argymell ar gyfer swydd, sydd wastad yn tynnu pwysau.
Os ydych yn defnyddio unrhyw un o’r rhain, sicrhewch eich bod yn cadw cofnod o’ch gweithgareddau yn eich cynllun chwiliad swydd, fel y gallwch gadw cofnod o ble rydych wedi chwilio, pa weithrediad rydych wedi’i wneud a phryd y mae angen i chi edrych eto.
Ewch i’r dudalen nesaf ‘Cam 6 – ceisio am swyddi’→
← Ewch yn ôl i dudalen dewislen ‘Cynllunio eich chwiliad swydd’