- Mae’n iawn gofyn i’ch cyfwelydd ailadrodd neu aralleirio cwestiwn nad ydych wedi ei ddeall.
- Sicrhewch fod gennych gwestiwn i ofyn i’r cyfwelydd ar y diwedd. Os na allwch chi feddwl am unrhyw un, mae awgrymiadau’n cynnwys sut bydd gwaith yn edrych o ddydd i ddydd, beth yw’r cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygu, neu beth ydy’r cyfwelydd yn ei hoffi am weithio yno.
- Mae’n rhesymol gofyn pryd a sut dylech chi ddisgwyl clywed penderfyniad y cyfwelydd.