Gallwch ddechrau yn adeiladu unrhyw bryd o gadael yr ysgol i nes ymlaen yn eich gyrfa. Mae llawer o bwyntiau mynediad ar gael gan gynnwys prentisiaethau, prentisiaethau uwch (sy’n cyfateb i flwyddyn gyntaf gradd) neu gyfleoedd lefel mynediad lle gallwch ddysgu yn y swydd.
Mae gan lawer o gwmnïau adeiladu mawr ac ymgynghoriaethau raglenni graddedigion gyda niferoedd penodol yn cael eu derbyn bob blwyddyn. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol lwybrau i yrfa yn y diwydiant adeiladu, edrychwch ar yr adran ‘Beth yw fy opsiynau’ ar wefan Go Construct neu ewch i wefan y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol.
Mae crefftau fel gosod brics, teils a phlymio yn dal i fod yn hanfodol a bydd bob amser eu hangen. Fodd bynnag, mae llawer mwy o rolau i ddewis ohonynt ar wefan Go Construct. Edrychwch ar wefan y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol am ragor o wybodaeth am y gwahanol rolau sydd ar gael.
Yn ogystal ag adeiladu tai, mae yna adeiladu masnachol – sy’n cynnwys popeth o swyddfeydd i stadiymau pêl-droed – ac isadeiledd fel ffyrdd, pontydd, cyflenwad dŵr a draenio, cyflenwad trydan a mwy.
Yna mae logisteg o ddarparu’r gwasanaethau hyn, yn ogystal â chyfleoedd mewn ymchwil a datblygiad, adnoddau dynol a chynllunio i’r dyfodol.
I ddarganfod sut beth yw hi mewn gwirionedd gan bobl sy’n gweithio yn y sector, darllenwch rai astudiaethau achos ar wefan Go Construct.