Gallwch ddefnyddio gwiriwr budd-daliadau (gwefan allanol) i weld pa fudd-daliadau y gallech fod â hawl iddynt, a chyfrifiannell-budd-daliadau (gwefan allanol) i weld faint y gallech ei gael.
Cymorth i roi hwb i’ch incwm
Efallai y gallwch helpu i gynyddu eich incwm. Budd-daliadau – GOV.UK (gwefan allanol). Yn cynnwys gwybodaeth am Gredyd Cynhwysol, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Lwfans Gofalwr a Lwfans Ceisio Gwaith.
Cymorth gyda biliau a chostau
Dewch o hyd i gymorth gyda chostau tai a biliau ynni (gwefan allanol).
Cymorth os ydych yn 60 neu throsodd
Dewch o hyd i Gredyd-Pensiwn (gwefan allanol) a chymorth gyda cost trafnidiaeth (gwefan allanol). Os ydych yn meddwl pryd y gallech ymddeol, gallwch hefyd gael Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth (gwefan allanol).
Os ydych yn meddwl pryd y gallech ymddeol, gallwch hefyd gael Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth (gwefan allanol).
Cymorth os oes gennych gyflwr anabledd neu iechyd
Edrychwch ar ein tudalen ar fudd-daliadau os oes gennych gyflwr anabledd neu iechyd.
Cymorth gyda chostau gofal plant
Darganfyddwch pa gymorth y gallech ei gael i’ch helpu i dalu am ofal plant fel y gallwch aros yn eich swydd neu ddychwelyd i’r gwaith.
Cymorth os oes gennych gyfrifoldebau gofalu
Darganfyddwch am gymorth i ofalwyr os oes rhaid i chi gyfuno gwaith a gofalu.