Neidio i’r cynnwys

Sgiliau a hyfforddiant sy’n seiliedig ar waith

Menyw ifanc yn gwenu o flaen y bwrdd gwyn

Hybu’ch sgiliau

Meddwl am eich opsiynau gwaith neu hyfforddiant a ddim yn siŵr beth i’w wneud nesaf? 

Mae digon o sgiliau a chyfleoedd hyfforddi, yn y swydd ac i ffwrdd o’r swydd. Darganfyddwch fwy am y pethau y gallech eu gwneud ar wefan Skills for Life Yr Adran Addysg. 

Hyfforddiant yn y gwaith

Gallwch ddysgu, ennill profiad a chael eich talu gyda hyfforddiant sy’n seiliedig ar waith i geiswyr gwaith o bob oed. Darganfyddwch fwy am: 

  • Prentisiaethau – swyddi go iawn sy’n eich galluogi i ennill cyflog tra’ch bod yn dysgu 
  • Hyfforddeiaethau (Lloegr yn unig) – rhaglen sgiliau yn y gwaith i bobl ifanc yn Lloegr i’ch paratoi am swydd neu brentisiaeth 
  • Rhaglen academi waith yn y sector (SWAPs) – cyfleoedd i geiswyr gwaith ddysgu sgiliau newydd a chael profiad o weithio mewn diwydiant penodol 

 

Prentisiaethau

  • Mae prentisiaeth yn swydd go iawn, gyda chyflog lle rydych chi’n ennill tra byddwch yn dysgu. Byddwch fel pawb arall, gyda chytundeb o waith a gwyliau. 
  • Mae prentisiaethau ar gael ar gyfer pob oedran. P’un a ydych yn 22 neu 52 oed, os ydych am ddysgu sgiliau newydd yn y swydd, efallai mai prentisiaeth fydd y llwybr gorau i chi. 
  • Fel prentis rydych yn treulio peth o’ch amser mewn hyfforddiant i ffwrdd o’r swydd, yn aml mewn coleg, prifysgol neu gyda darparwr hyfforddiant lleol. Erbyn diwedd prentisiaeth, bydd gennych y sgiliau a’r wybodaeth gywir sydd eu hangen ar gyfer eich gyrfa ddewisedig neu’r camau nesaf. 
  • Mae yna filoedd o swyddi gwag prentisiaethau i ddewis ohonynt ac mae rhai’n cynnwys cymhwyster, fel gradd. 
  • Mae cyfleoedd mewn llawer o wahanol ddiwydiannau, gyda chyflogwyr mawr a bach. 

I fod yn brentis rhaid bod yn 16 oed neu’n hŷn a pheidio â bod mewn addysg llawn amser.

  • Gallwch ymgymryd â phrentisiaeth p’un a ydych chi’n dechrau yn eich gyrfa, yn newid rolau neu rydych chi’n uwchsgilio yn eich swydd bresennol.
  • Gallwch hefyd wneud cais am brentisiaeth tra byddwch yn dal yn yr ysgol, ond bydd angen i chi fod yn 16 oed neu’n hŷn ac wedi gorffen eich arholiadau blwyddyn 11 cyn i chi ddechrau’r brentisiaeth. 

Chwiliwch a gwnewch gais am brentisiaeth yn agos atoch chi yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban. 

Prentisiaethau Cychwyn Gyrfa

  • Mae digon o brentisiaethau yn gweddu’n berffaith i berson ifanc sy’n gadael addysg llawn amser. Ewch i Prentisiaethau Cychwyn Gyrfa i weld rhai o’r cyfleoedd hyn. 
  • Os na allwch ddod o hyd i Brentisiaeth Cychwyn Gyrfa yr ydych yn ei hoffi, gallwch chwilio pob prentisiaeth gan fod y rhan fwyaf o brentisiaethau yn gamau cyntaf gwych i’w cymryd ar ôl i chi adael yr ysgol. 

Rhaglen Academi Gwaith Seiliedig ar Sector

  • Mae rhaglen academi gwaith seiliedig ar sector (SWAP) yn gyfle i ddysgu sgiliau newydd a chael profiad o weithio mewn diwydiant arbennig, er enghraifft gwaith gofal, adeiladu neu warws. 
  • Nod y rhaglen yw helpu ceiswyr gwaith sy’n hawlio naill ai Credyd Cynhwysol, Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), i fagu hyder, gwella rhagolygon gwaith a gwella CVs. 
  • Mae SWAPs yn para hyd at chwe wythnos, ac mae ganddynt dair rhan: 
    • hyfforddiant cyn cyflogi – modiwl byr o hyfforddiant galwedigaethol sy’n cael ei redeg gan goleg neu ddarparwr hyfforddiant lleol 
    • profiad gwaith gyda chyflogwr yn y diwydiant, lle gallwch ddysgu sgiliau newydd yn y swydd 
    • ar ddiwedd y rhaglen, naill ai cyfweliad swydd gyda chyflogwr yn y sector neu os nad oes modd cynnig cyfweliad, help gyda’r broses ymgeisio. 
  • Byddwch yn parhau i dderbyn budd-daliadau wrth gymryd rhan mewn SWAP, ac os oes angen i chi deithio i fan gwaith y cyflogwr neu i ble mae’r hyfforddiant yn cael ei gynnal, efallai y gallwch dderbyn help gyda chost trafnidiaeth gyhoeddus neu ofal plant priodol. 
  • Bwriad y rhaglen yw helpu i wella rhagolygon swyddi a helpu cyflogwyr i lenwi swyddi, gan fod pob SWAP yn gysylltiedig ag un neu fwy o swyddi go iawn.
  • Er nad ydych yn sicr o gael swydd ar ôl cwblhau SWAP, mae’n eich helpu i wella’ch cyfle o gael gwaith yn y sector hwnnw. 
  • Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn SWAP, bydd angen i chi siarad â’ch anogwr gwaith, a fydd yn trafod y math o gyfleoedd sydd ar gael yn eich ardal leol ac os yw SWAP yn iawn i chi. 

Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth, gan gynnwys cymhwysedd a gofynion ar wefan gov.uk. 

Llwybrau eraill i gyflogaeth fedrus

Lefelau T (Lloegr yn unig)

  • Meddwl am beth i’w wneud ar ôl TGAU? Mae Lefelau T yn gymwysterau technegol y gallwch ddewis yn lle Safon Uwch, cyrsiau ôl-16 eraill neu brentisiaeth.
  • Mae Un Lefel T yn cymryd 2 flynedd o astudio llawn amser ac mae’n cyfateb i 3 Safon Uwch.
  • Ar hyn o bryd, mae 10 cwrs Lefel T y gallwch wneud cais amdanynt mewn ysgolion a cholegau dethol yn Lloegr. Bydd mwy o Lefelau T yn dod yn fuan, gyda mwy nag 20 pwnc ar gael yn y dyfodol, sy’n cwmpasu popeth o amaethyddiaeth i arlwyo, peirianneg a gwyddoniaeth. 
  • Mae Lefelau T yn dod â dysgu yn y dosbarth a lleoliad diwydiannol estynedig ynghyd ar gwrs sydd wedi’i gyd-ddylunio â chyflogwyr er mwyn i chi fod yn hyderus y bydd y sgiliau rydych chi’n eu dysgu yn eich helpu i gael swydd. 
  • Byddwch yn treulio 80% o’ch amser yn yr ystafell ddosbarth a 20% ar leoliad diwydiant gyda chyflogwr fel eich bod yn cael dysgu’r sgiliau a’r wybodaeth y mae cwmnïau’n chwilio amdanynt. 
  • Bydd Lefelau T hefyd yn caniatáu i chi symud ymlaen i brentisiaethau lefel uwch neu astudiaeth bellach fel prifysgol. 

I ddysgu mwy ac i chwilio am Lefelau T yn eich ardal ewch i wefan Lefelau T. 

Mwy o opsiynau

  • Ewch i’r Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol i archwilio gwahanol yrfaoedd, cymharu’ch opsiynau hyfforddi a chael mwy o gyngor a chefnogaeth. 
  • Gall gwefan Skills for Life yr Adran addysg eich  helpu i ddod o hyd i gyfleoedd a chymwysterau dysgu newydd i gefnogi eich chwiliad swydd.