Polisi Preifatrwydd
DWP yw’r rheolydd data ar gyfer tudalennau ar y wefan hon. Mae rheolydd data yn penderfynu sut a pham mae data personol yn cael ei brosesu.
Mae ein Siarter Gwybodaeth Personol yn esbonio sut a pham mae DWP yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, a’ch hawliau a’ch cyfrifoldebau. Mae’n cwmpasu’r holl wasanaethau y mae DWP yn eu darparu, ac nid y wefan hon yn unig.
Os dilynwch ddolen i wasanaeth a ddarperir gan adran, asiantaeth neu awdurdod lleol arall y llywodraeth, y sefydliad hwnnw fydd:
- Y rheolydd data
- Yn gyfrifol am brosesu unrhyw ddata rydych chi’n ei rannu â nhw
- Yn cyhoeddi a rheoli eu hysbysiad preifatrwydd eu hunain gyda manylion sut i gysylltu â nhw
Pa ddata rydym yn ei gasglu ar y wefan hon
Hoffem ddefnyddio cwcis i ddal gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio’r wefan, a hefyd pa mor effeithiol yw ein hysbysebu wedi bod. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y cwcis rydym yn eu defnyddio, a pham ar ein Tudalen cwcis.
Ni fyddwn yn storio gwybodaeth na chwcis oni bai eich bod yn rhoi caniatâd i ni. Nid ydym yn storio unrhyw wybodaeth bersonol arall.
Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data
Y sail gyfreithlon dros brosesu data ar gyfer dadansoddeg neu farchnata yw eich caniatâd.
Beth rydym yn ei wneud gyda’ch data
Efallai y bydd y data a gasglwn yn cael ei rannu ag adrannau, asiantaethau a chyrff cyhoeddus eraill y llywodraeth. Gellir ei rannu hefyd gyda’n cyflenwyr technoleg, er enghraifft ein darparwr cynnal.
Ni fyddwn yn gwerthu nac yn rhentu eich data i drydydd partïon.
Am faint rydym yn cadw eich data
Bydd eich data cwci yn cael ei storio o dan bolisi preifatrwydd y darparwyr gwasanaeth a ddefnyddiwn. Gallwch ddod o hyd i restr o’r cwcis a ddefnyddiwn, a pha mor hir y maent yn cael eu storio, ar ein tudalen cwcis. Gallwch reoli eich gosodiadau cwci unrhyw bryd.