P’un a fyddwch yn dewis y Llynges Frenhinol, y Fyddin neu’r Llu Awyr Brenhinol (RAF), ni all gyrfa yn y Lluoedd Arfog fod yn debyg i yrfa arall. Mae gan Lluoedd Arfog y DU gannoedd o wahanol fathau o rolau, o filwyr i fecaneg a pheirianwyr, o yrwyr i gogyddion a staff Adonddau Dynol, ac o logisteg i weithredwyr cudd-wybodaeth a Môr-filwyr. Dyma’r math o yrfa y gallwch fod yn falch ohoni gan eich bod yn amddiffyn buddiannau’r DU ledled y byd, wrth ddatblygu sgiliau sy’n aros gyda chi am oes.
Pa sgiliau a chymwysterau fyddaf eu hangen?
Efallai bod eisoes gennych rai o’r sgiliau sy’n ofynnol ar gyfer gyrfa yn y fyddin, gan gynnwys:
- y gallu i weithio ar eich pen eich hun neu fel rhan o dîm
- sgiliau corfforol fel symud, cydsymud a deheurwydd
- sgiliau cyfathrebu, meddwl a rhesymu
- amynedd a’r gallu i aros yn ddigynnwrf mewn sefyllfaoedd dirdynnol
- gwneud penderfyniadau ac arweinyddiaeth
Gyda chymaint o rolau gwahanol ac unigryw, nid oes angen cymwysterau ffurfiol bob amser. Os nad oes gennych bas mewn TGAU Saesneg a Mathemateg, byddwch yn ennill cymwysterau cyfatebol fel rhan o’ch hyfforddiant. Y Lluoedd Arfog yw un o ddarparwyr prentisiaethau mwyaf y DU, a chwblheir prentisiaethau fel rhan o’r hyfforddiant ar gyfer rhai rolau.
Bydd cymwysterau presennol yn rhoi mwy o ddewis i chi, er enghraifft eich galluogi i ymuno fel swyddog neu fel rhan o grefft benodol fel peiriannydd neu rôl feddygol.
Bydd angen lefel sylfaenol o ffitrwydd corfforol arnoch i basio’r broses ddethol a byddwch yn cael llawer o gyngor i’ch helpu. Bydd angen i chi hefyd basio archwiliad meddygol. Efallai yr ystyrir eich profiad blaenorol.
Beth arall rwyf angen ei wybod?
Yn gyffredinol, mae’r cyflog dechreuol ar gyfer rhywun dan hyfforddiant ychydig o dan £16,000 yn mynd i fyny i isafswm o £24,000 ar ôl hyfforddiant. Gall cyflogau lefel mynediad swyddogion fod mor uchel â £39,000 er y bydd y mwyafrif yn agosach at £30,000. Mae’r pecyn buddion yn cynnwys llety â chymhorthdal, prydau bwyd a theithio.
Mae’r Lluoedd Arfog yn gofyn am lefel uchel o uniondeb, disgyblaeth ac ymrwymiad. Bydd angen i chi ymrwymo i 3.5 mlynedd yn y Llynges Frenhinol, 4 blynedd yn y Fyddin a 6 blynedd yn yr RAF, ond mae llawer yn mynd ymlaen i wasanaethu gyrfaoedd llawer hirach. Mae cyfleoedd ar gyfer dyrchafiad wedi’u strwythuro’n dda ac mae’n bosibl codi’n gyson trwy’r rhengoedd.
Eisiau cael gwybod mwy?
- swyddi yn y Llynges Frenhinol, ewch i wefan Y Llynges Frenhinol
- swyddi yn y Fyddin Brydeinig, ewch i wefan Y Fyddin Brydeinig
- swyddi yn y Llu Awyr Brenhinol, ewch i wefan Y Llu Awyr Brenhinol
I gael gwybodaeth am ddod yn Beiriannydd Amddiffyn yn y Fyddin, y Llynges Frenhinol, y Llu Awyr Brenhinol neu Beirianneg y Gwasanaeth Sifil, ymwelwch â gwefan Talent Retention Solutions.
Mewn rhai swyddi bydd angen i chi basio gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), a gellir dod o hyd i arweiniad ar wefan GOV.UK. Gallwch hefyd ddysgu am y broses DBS gyda’r canllaw hwn ar YouTube.
Ewch i’r Gwasanaeth Gyrfa Cenedlaethol i gael proffiliau gyrfa manwl a darganfod beth mae pob swydd yn ei gynnwys.