Efallai y bydd eleni’n teimlo’n wirioneddol wahanol i bobl sy’n derbyn eu canlyniadau arholiad, felly mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol wedi sefydlu llinell gymorth arbennig i helpu pobl ifanc (a’u rhieni neu ofalwyr) i weithio trwy eu camau nesaf.
Mae gan y llinell gymorth ymgynghorwyr gyrfaoedd proffesiynol ar gael i ddarparu cyngor ac arweiniad diduedd am ddim ar y gwahanol ddewisiadau sydd ar gael. Gallant helpu â:
- Cyngor am yrfaoedd
- Ail-eistedd neu ail-gymryd
- Addysg barhaus – fel astudio mewn prifysgol neu goleg
- Gwahanol ffyrdd o ddysgu – fel Prentisiaethau, Hyfforddeiaethau a NVQs
- Cael swydd neu sefydlu mewn busnes
Gallwch siarad ag ymgynghorydd gyrfaoedd pwrpasol trwy ffonio 0800 100 900 neu ddefnyddio eu gwesgwrs (gwefan allanol).
Gwelwch lawer o gyngor hefyd ar wefan y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol (gwefan allanol) lle gallwch ymchwilio i yrfaoedd a chymharu’ch opsiynau ar gyfer y dyfodol.