Neidio i’r cynnwys

Amserlenni’r Ganolfan Byd Gwaith Symudol

Rydym yn dod â gwasanaethau Canolfan Byd Gwaith i fwy o gymunedau ledled Prydain, gan gynnwys ardaloedd gwledig a threfi nad oes ganddynt ganolfan gwaith. Darganfyddwch ble bydd ein canolfannau gwaith symudol a phryd, a'r gwasanaethau maen nhw'n eu cynnig.

Mae Canolfan Byd Gwaith yn gweithio mewn partneriaeth â chynghorau lleol, elusennau a chyflogwyr i gynnig cefnogaeth wedi’i theilwra i’ch ardal. Mae hyn yn cynnwys cymorth a chyngor ar:

  • dod o hyd i waith yn agos atoch
  • gwella eich CV
  • paratoi ar gyfer cyfweliadau
  • gwneud cais am swyddi ar-lein
  • deall Credyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill
  • darganfod mwy am ein gwasanaethau symudol a beth i’w ddisgwyl pan fyddwch yn ymweld.

Dysgwch fwy am ein gwasanaethau symudol a beth i’w ddisgwyl pan fyddwch chi’n ymweld.

Dewis eich amserlen leol

Mae’r gwasanaeth newydd hwn ar gael mewn nifer fach o ardaloedd yng Nghymru.

Dewch o hyd i’ch ardal i weld dyddiadau, amseroedd a lleoliadau sydd i ddod ar gyfer ein hymweliadau fan symudol. Rydym yn diweddaru’r amserlenni hyn yn aml, felly gwiriwch eto cyn teithio.