Neidio i’r cynnwys

Cyfweliadau Deallusrwydd Artiffisial

Mae llawer o gwmnïau bellach yn defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) fel rhan o’u proses recriwtio. Gall eu helpu i ddod o hyd i ymgeiswyr addas ar gyfer eu swyddi gwag yn gyflymach ac yn fwy effeithlon.

Yn ogystal ag asesu CVs a ffurflenni cais trwy Systemau Olrhain Ymgeiswyr (ATS), mae mwy a mwy o gyflogwyr yn defnyddio AI mewn cyfweliadau swyddi. Gall y syniad o gael eich cyfweld gan gyfrifiadur deimlo’n rhyfedd, ond peidiwch â phoeni, mewn sawl ffordd mae’n yr un peth â chael eich cyfweld gan berson. Fodd bynnag, mae rhai gwahaniaethau, felly dyma ychydig o awgrymiadau ar sut i baratoi ar gyfer cyfweliad AI.

Sut Mae Cyfweliadau AI yn Gweithio

Mae cyfweliadau AI yn seiliedig ar gyfrifiadur ac yn defnyddio meddalwedd AI i gynnal y cyfweliad.

  • Yn gyffredinol, gofynnir cwestiynau i chi trwy destun neu lais a gynhyrchir gan gyfrifiadur.
  • Fel arfer rhoddir cyfnod penodol o amser i chi ar gyfer pob ateb.
  • Efallai y bydd y cyfwelydd AI yn gofyn cyfres o gwestiynau safonol, neu rai yn seiliedig ar eich CV neu gais. Gallant hefyd addasu’r cwestiynau yn ystod y cyfweliad yn dibynnu ar yr ymatebion a roddwch.
  • Weithiau gall cyfwelwyr AI hefyd osod tasgau sydd wedi’u cynllunio i brofi eich sgiliau technegol neu alluoedd datrys problemau.
  • Unwaith y bydd y cyfweliad drosodd, gall recriwtwyr ddefnyddio’r wybodaeth mewn gwahanol ffyrdd. Er enghraifft:
    • Bydd y cyfwelydd AI yn gofyn cwestiynau ac yn recordio atebion cyn i recriwtwyr siarad yn uniongyrchol ag ymgeiswyr. Yn y senario hwn, ni fydd gan AI unrhyw rôl wrth benderfynu a yw rhywun yn addas ar gyfer y swydd.
    • Weithiau bydd yr AI yn dadansoddi atebion cyfweliad ac yn eu defnyddio i leihau nifer y bobl y mae angen i recriwtwyr eu cyfweld.
    • Bydd rhai cwmnïau’n defnyddio AI i arwain y broses recriwtio gyfan, o asesu CVs, i gynnal cyfweliadau i benderfynu ar yr ymgeisydd gorau ar gyfer y swydd.

Sut i lwyddo mewn cyfweliad AI

Mewn sawl ffordd, mae cyfweliad AI yn union fel un traddodiadol. Felly, dylech chi fynd ati yn yr un ffordd fwy neu lai – gwnewch eich ymchwil am y cyflogwr, paratowch ar gyfer cwestiynau ac ymarferwch eich atebion fel y gallwch chi ddangos yn hyderus i’r cyflogwr pam mai chi yw’r person cywir ar gyfer y swydd.

Ond mae rhai gwahaniaethau y gallai fod angen i chi baratoi ar eu cyfer. Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu.

Cyn y cyfweliad

  • Paratowch eich atebion – Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cynnwys geiriau ac ymadroddion allweddol sy’n berthnasol i’r swydd. Mae’n bwysig iawn eu bod nhw’n glir yn eich ymatebion gan y bydd y deallusrwydd artiffisial wedi’i raglennu i adnabod y rhain a sut rydych chi’n eu defnyddio.
  • Ymarferwch eich atebion – Bydd y deallusrwydd artiffisial hefyd yn chwilio am iaith gorfforol gadarnhaol, tôn llais a mynegiant wyneb. Felly, ymarferwch hyn. Efallai ffilmiwch eich hun ac adolygwch y lluniau i weld sut allwch chi wella. Mae offer ymarfer cyfweliad wedi’u pweru gan ddeallusrwydd artiffisial lle gallwch chi ymgyfarwyddo â fformat y cyfweliad, darganfod cwestiynau posibl a chael adborth ar eich atebion. Chwiliwch ar-lein am ‘free interview practice’.
  • Profwch eich offer – Gwnewch yn siŵr bod eich camera a’ch meicroffon yn gweithio a bod gennych chi gysylltiad rhyngrwyd da. Os ydych chi ar ddyfais symudol, gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi lawrlwytho’r ap sydd ei angen arnoch chi a’ch bod chi’n gyfarwydd â sut mae’n gweithio (mae llawer yn cynnig sesiynau ymarfer neu arddangosiadau am ddim).

Yn ystod y cyfweliad

  • Dylech drin y cyfweliad fel pe bai’n wyneb yn wyneb:
    • Gwisgwch ddillad proffesiynol – Dewiswch liwiau niwtral ac osgowch batrymau prysur a allai dynnu sylw ar gamera
    • Eisteddwch yn syth a chadwch gyswllt llygad â’r camera i ddangos eich hyder, brwdfrydedd a phroffesiynoldeb
    • Siaradwch yn glir ac yn gryno – peidiwch â malu.
  • Ystyriwch leoliad y cyfweliad – Eisteddwch mewn ystafell dawel lle mae eich wyneb wedi’i oleuo’n dda, yn ddelfrydol gyda golau naturiol, a dewiswch gefndir glân heb unrhyw wrthdyniadau.

Byddwch yn ymwybodol o’ch hawliau

Er y gall AI fod â manteision i gyflogwyr, mae yna risgiau hefyd. Er enghraifft, mae rhai offer AI yn dysgu o ffynonellau eraill, felly gallai unrhyw ragfarn yn y data ffynhonnell effeithio arnynt. Dylai recriwtwyr bob amser geisio lleihau’r risgiau hyn, fel bod eu prosesau’n deg ac yn rhoi’r canlyniadau gorau iddynt.

Pan fydd cyflogwyr yn recriwtio, rhaid iddynt gydymffurfio â chyfreithiau fel y Ddeddf Cydraddoldeb. Er enghraifft, ni ddylai’r prosesau recriwtio y mae cyflogwr yn eu defnyddio wahaniaethu’n annheg yn eich erbyn os oes gennych anabledd. Mae angen i gyflogwyr ystyried addasiadau wrth recriwtio. Dylent ofyn i bob ymgeisydd a oes angen unrhyw addasiadau arnynt ar gyfer unrhyw ran o’r broses ddethol, gan gynnwys y ffordd y cynhelir cyfweliadau (p’un a yw AI yn cael ei ddefnyddio ai peidio).

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses recriwtio, cysylltwch â rheolwr cyflogi’r cyflogwr. Mae hefyd yn ffordd wych o ddysgu mwy am y swydd a dangos iddynt eich bod yn awyddus.

Am gyngor ar lwyddo mewn cyfweliad o bell, ewch i’n tudalen Awgrymiadau gorau os oes gennych chi gyfweliad o bell.