Neidio i’r cynnwys

5 Myth am waith asiantaeth … wedi’u chwalu!

Dau ddyn yn yfed coffi ac yn gwenu ar ei gilydd. Cysylltu i 5 Myth am waith asiantaeth ... wedi’u chwalu!

Ydych chi erioed wedi meddwl nad yw gwaith asiantaeth yn addas i chi? Meddyliwch eto. Efallai y cewch eich synnu gan yr amrywiaeth o swyddi sydd ganddynt ar gael. Dyma 5 myth cyffredin am asiantaethau recriwtio:

MYTH: Mae’n well i wneud cais am swyddi uniongyrchol.
GWIRIONEDD: Mae asiantaethau recriwtio yn aml yn hysbysebu’r un swyddi â chyflogwyr uniongyrchol, ar yr un contract a’r un cyflogau. Yn aml gall dechrau gydag asiantaeth, neu trwy ddefnyddio llwyfannau chwilio ar-lein fel y wefan Dod o Hyd i Swydd  fod yn garreg gamu i swydd barhaol.

MYTH: Mae staff dros dro yn cael eu trin yn wahanol i staff parhaol.
GWIRIONEDD: Mae asiantaethau recriwtio yn gweithio’n galed i sicrhau bod gweithwyr dros dro yn cael eu trin yr un fath â staff parhaol.

MYTH: Nid oes gan weithwyr asiantaeth yr un hawliau â staff parhaol.
GWIRIONEDD: Mae gan weithwyr asiantaeth lawer o’r un hawliau â staff parhaol gan gynnwys yr hawl i 28 diwrnod o wyliau â thâl y flwyddyn (gan gynnwys gwyliau banc).

MYTH: Nid ydynt yn fy ystyried oherwydd does gen i ddim profiad.
GWIRIONEDD: Nid oes angen profiad bob amser gan fod llawer o asiantaethau’n cynnig hyfforddiant. Maent yn chwilio am bobl sy’n barod i ddysgu a chymhwyso eu hunain.

MYTH: Mae gwaith asiantaeth bob amser yn dymor byr heb unrhyw warant o oriau.

GWIRIONEDD: Ydy, gall gwaith asiantaeth fod yn hyblyg ond yn aml gallant drosglwyddo pobl i gontractau parhaol a phatrymau gwaith sefydlog.

Os gallwch chi, dewiswch asiantaeth sy’n aelod o’r Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogaeth (REC). Maent yn dod o dan y cod ymarfer sy’n sicrhau safonau uchel. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan REC.