Neidio i’r cynnwys

O CVs i gyfweliadau: beth mae’r arbenigwyr yn ei ddweud?

Expert giving advice on CV

Mae gan Joanne Pickering, Cymrawd Siartredig y CIPD (Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu) brofiad o recriwtio mewn ystod o sectorau. Yma, mae hi’n rhannu gyda ni ei chyngor, o ysgrifennu CV effeithiol i greu argraff mewn cyfweliad.

Eich CV yw eich ‘gwerthiant personol’

  • eich CV yw eich cyfle i werthu’ch hun felly gwnewch yn siŵr ei fod wir yn gweithio i chi. Cadwch e’n glir, yn gryno ac yn hawdd ei ddarllen. Gall pwyntiau bwled helpu gyda hyn. Yn gyffredinol, nid oes gan gyflogwyr hir i edrych ar bob CV a anfonir atynt, felly anelwch at ddim mwy na dwy dudalen o hyd.
  • rhestrwch eich profiad mewn trefn gronolegol gyda’r mwyaf diweddar yn gyntaf. Dangoswch y dyddiadau y cawsoch eich cyflogi ym mhob rôl, er enghraifft, mis Chwefror 2014 i’r presennol
  • mae’n arfer da darparu llythyr eglurhaol yn dweud wrth y cyflogwr pam mai chi yw’r ‘person mwyaf addas’ ar gyfer y rôl. Gall hyn hefyd helpu’r cyfwelydd o ran llunio rhestr fer ymgeiswyr ar gyfer cyfweliad.
  • yn fwy na dim, dylech brawf ddarllen! Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw gamsillafu neu ‘siarad destun’ yn eich llythyr eglurhaol neu CV

Peidiwch â bod ofn i wneud ceisiadau ar hap

  • os oes rhywle byddech yn wir yn hoffi gweithio, gallech wneud cais ar hap trwy fynd at y cyflogwr i ofyn am gyfleoedd sydd heb eu hysbysebu. Nid ydych byth yn gwybod, efallai y bydd ganddynt swydd addas i chi
  • dechreuwch gydag ychydig o ymchwil ar y cwmni. Os credwch fod ganddynt rolau y credwch y gallech eu llenwi, yn seiliedig ar eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch profiad, beth am anfon eich CV atynt gyda llythyr eglurhaol yn esbonio’ch rheswm dros ysgrifennu atynt? Er efallai na fydd ganddynt unrhyw swyddi gwag ar hyn o bryd, gallent gadw’ch manylion ar ffeil ar gyfer swyddi gwag yn y dyfodol

Mae agwedd mor bwysig â phrofiad

  • er bod profiad yn cyfrif, gall agwedd barod a ‘gallu gwneud’ roi mantais amlwg i rywun dros ymgeisydd arall
  • mae’r CIPD, er enghraifft, yn annog gweithwyr proffesiynol AD (Adnoddau Dynol) i ‘recriwtio ar gyfer parodrwydd, hyfforddi ar gyfer sgil’. Mae hyn yn rhywbeth y bydd gan lawer o recriwtwyr mewn golwg yn ystod y broses gyfweld. Yn aml gellir hyfforddi darpar ymgeisydd, sy’n dangos parodrwydd i ddysgu a datblygu, yn y sgiliau sy’n ofynnol ar gyfer y rôl

Ennill mantais gystadleuol

  • os cewch gyfweliad a’i fod yn dibynnu ar ddewis rhyngoch chi ac ymgeisydd arall, mae yna nifer o ffactorau y bydd cyflogwyr yn eu hystyried wrth benderfynu pwy  fydd yn cael cynnig y swydd
  • gallwch ennill mantais gystadleuol trwy sicrhau eich bod yn cyflwyno’ch hun yn dda, o ran edrych yn drwsiadus, a chael iaith y corff cadarnhaol a’r agwedd gywir
  • fel rheol gofynnir i chi ar ddiwedd cyfweliad os oes gennych unrhyw gwestiynau. Mae’n syniad da paratoi cwestiynau am y cwmni neu’r rôl ymlaen llaw. Efallai gwnewch ychydig o ymchwil am y cyflogwr fel y gallwch ofyn cwestiynau sy’n dangos eich bod o ddifrif am fod eisiau gweithio iddynt

Mae Joanne wedi treulio’r 16 mlynedd diwethaf yn gweithio yn y sector cyfreithiol fel Cyfarwyddwr AD, Hyfforddiant ac Ansawdd i Forbes Solicitors, cwmni cyfreithiol rhanbarthol mawr gyda swyddfeydd ledled Gogledd Lloegr.

Gwyliwch ein fideo awgrymiadau CV i ddeall ymhellach beth ddylai ac na ddylai CV ei gynnwys a sut i wneud i'ch un chi weithio'n galetach i chi.

Erthyglau