Neidio i’r cynnwys

Dod o hyd i waith yn 50+ – Beth yw’r opsiynau?

Gŵr oedrannus yn gweithio mewn ffatri ddiwydiannol. Dolenni i Dod o Hyd i Waith yn 50+ - beth yw'r opsiynau?

Ydych chi dros 50 oed ac allan o waith?  Neu ydych chi’n meddwl am ddod o hyd i rôl newydd sy’n fwy addas ar gyfer eich ffordd o fyw neu gyfrifoldebau gofalu?  Mae ystod o opsiynau y gallech eu hystyried. Dyma ychydig o wybodaeth a chyngor i’ch helpu i’ch rhoi ar y trywydd iawn.

Cymryd MOT canol oes

Gweithio’n hyblyg

  • Os nad ydych yn gallu gweithio’n llawn amser, nid yw’n golygu na allwch weithio o gwbl.
  • Mae llawer o gyflogwyr yn cynnig gweithio hyblyg sy’n cynnwys rhannu swyddi ac oriau rhan amser, felly gallwch barhau i weithio ac ennill mewn ffordd sy’n gyfleus i chi. Efallai y byddant hefyd yn cynnig y cyfle i weithio gartref neu mewn lleoliad sy’n gyfleus i chi.
  • Darganfyddwch fwy am y mathau o drefniadau hyblyg sydd ar gael a sut y gallent eich helpu ar ein tudalen gweithio hyblyg.

Datblygu eich sgiliau

Gallai’r sgiliau a’r profiad rydych wedi’u casglu ar hyd eich bywyd gwaith fod o werth mawr i gyflogwyr. Ond efallai y byddwch eisiau adnewyddu neu adeiladu ar rai o’r sgiliau hynny, neu roi cynnig ar rywbeth hollol newydd efallai. Dyma rai opsiynau sydd ar gael i bobl o bob oed.

  • Mae’r wefan Sgiliau am Oes (gwefan allanol) yn gallu eich helpu i ddod o hyd i gyfleoedd dysgu a chymwysterau newydd er mwyn gwella’ch cyfle i ddod o hyd i waith. Mae hyn yn cwmpasu pob math o ddysgu, o gyfleoedd gloywi byr i ‘Skills Bootcamps’ ar gyfer sectorau penodol, i brentisiaethau lle rydych yn dysgu wrth wneud gwaith go iawn.
  • Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol, gall eich Anogwr Gwaith gynnig cymorth cyflogaeth a sgiliau wedi’i deilwra i chi fel rhan o 50 PLUS: Choices (gwefan allanol).
  • Darganfyddwch fwy am gyfleoedd sy’n eich galluogi i weithio tra’n hyfforddi ar ein tudalen Sgiliau a hyfforddiant yn y gwaith.

Dychwelyd i’r gwaith

  • Os nad ydych yn siwr ble i ddechrau gyda’ch chwiliad gwaith, dilynwch ein pedwar cam hawdd i wella’ch siawns o ddod o hyd i waith. Mae’r rhain yn cwmpasu sut i ddarganfod beth rydych chi’n dda yn ei wneud, i ysgrifennu eich CV ac i wneud cais am swyddi.
  • Angen diweddaru eich CV neu greu un newydd? Gall ein tudalen CV a llythyrau eglurhaol
  • Mae rhai diwydiannau yn recriwtio ar hyn o bryd ac mae ganddynt fwy o swyddi ar gael nag eraill. Gallwch ddarllen mwy am y rhain ar ein tudalennau sectorau. Mae gwybodaeth hefyd i’ch helpu i gychwyn mewn diwydiant nad ydych wedi gweithio ynddo o’r blaen.
  • Defnyddiwch y gwasanaeth Dod o Hyd i Swydd (gwefan allanol). Gyda Dod o Hyd i Swydd, gallwch greu proffil, llwytho eich CV a derbyn rhybuddion e-bost am swyddi newydd a swyddi presennol mewn sector sy’n addas i chi.
  • Mae digon o safleoedd swyddi eraill ar gael hefyd. Rhowch gynnig ar chwilio am ‘jobs’ yn Google neu gwnewch eich chwiliad yn fwy penodol i ddod o hyd i’r swyddi gwag cywir i chi, fel ‘swyddi manwerthu yn Llandudno’.

Meddyliwch am waith gwirfoddol