Os ydych chi yn ddechrau ar eich bywyd gwaith, mae’n arferol cael cwestiynau.
Efallai eich bod newydd adael yr ysgol, y coleg neu’r brifysgol ac nad ydych yn siŵr beth rydych am ei wneud nesaf. Neu efallai eich bod wedi gwneud cais am ychydig o swyddi ond wedi cael eich gwrthod. Gall hynny fod yn anodd.
Peidiwch â phoeni. Mae help wrth law.
Y Gwarant Ieuenctid yw ymrwymiad Llywodraeth y DU i roi cymorth i bobl ifanc 16–24 oed ledled Prydain Fawr i ddod o hyd i swydd, hyfforddiant neu brentisiaeth.
Mae eich taith yn dechrau yma.
Rydym wedi llunio rhywfaint o wybodaeth am y cymorth chwilio am waith y gallwch ei gael mewn lleoedd fel Hybiau Ieuenctid. Fe welwch hefyd gyngor i’ch helpu i symud ar y trywydd cywir – boed hynny’n awgrymiadau ar ddod o hyd i gyfleoedd gwaith, ysgrifennu CV neu adeiladu eich sgiliau.
Pa fath o help hoffech chi ei gael?