- Ewch i mewn i’r cyfweliad gyda gwybodaeth dda o’r cwmni. Mae’n rhoi hyder i chi ac yn dweud wrth y cyflogwr eich bod o ddifrif am y swydd.
- Dysgwch am hanes y cyflogwr, beth maent yn gwneud a beth maent wedi’i gyflawni, unrhyw newyddion neu ymgyrchoedd cyfredol, a phwy yw ei gystadleuwyr neu bartneriaid.
- Crewch rhestr o bwyntiau allweddol y gallwch gael cipolwg yn gyflym arnynt os ydych yn cael trafferth. Bydd yn eich helpu i wneud atebion eich cyfweliad yn fwy perthnasol i’r cyflogwr.