Neidio i’r cynnwys

Canolfan Byd Gwaith Symudol – beth i’w ddisgwyl

Hygyrchedd

Mae gan ein faniau Ganolfan Byd Gwaith symudol y canlynol:

◾rampiau a mynediad hygyrch

◾WiFi i helpu gyda cheisiadau ar-lein

◾Trin gwybodaeth bersonol yn ddiogel

Os oes gennych anghenion hygyrchedd penodol, rhowch wybod i aelod o’r tîm pan fyddwch yn cyrraedd.

Yr hyn sydd angen i chi dod gyda chi

Os gallwch, dewch:

â’ch CV os oes gennych un

◾â’ch manylion hanes gwaith

◾ag unrhyw ddogfennau sy’n gysylltiedig â chais budd-dal neu gais am swydd

Gallwch ymweld â ni o hyd os nad oes gennych yr eitemau hyn.

Newidiadau i’r gwasanaeth

Weithiau, efallai y bydd angen i ni ganslo neu newid ymweliad ar fyr rybudd. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn diweddaru tudalen amserlen yr ardal cyn gynted â phosibl.

← Ewch yn ôl i’r dudalen ‘Amserlen y Ganolfan Byd Gwaith Symudol’