Neidio i’r cynnwys

Ifanc ac yn chwilio am waith?

Os ydych chi yn ddechrau ar eich bywyd gwaith, mae’n arferol cael cwestiynau.

Efallai eich bod newydd adael yr ysgol, y coleg neu’r brifysgol ac nad ydych yn siŵr beth rydych am ei wneud nesaf. Neu efallai eich bod wedi gwneud cais am ychydig o swyddi ond wedi cael eich gwrthod. Gall hynny fod yn anodd.

Peidiwch â phoeni. Mae help wrth law.

Y Gwarant Ieuenctid yw ymrwymiad Llywodraeth y DU i roi cymorth i bobl ifanc 16–24 oed ledled Prydain Fawr i ddod o hyd i swydd, hyfforddiant neu brentisiaeth.

Mae eich taith yn dechrau yma.

Rydym wedi llunio rhywfaint o wybodaeth am y cymorth chwilio am waith y gallwch ei gael mewn lleoedd fel Hybiau Ieuenctid. Fe welwch hefyd gyngor i’ch helpu i symud ar y trywydd cywir – boed hynny’n awgrymiadau ar ddod o hyd i gyfleoedd gwaith, ysgrifennu CV neu adeiladu eich sgiliau.

Pa fath o help hoffech chi ei gael?

Cymorth personol

Ydy'r byd gwaith yn teimlo'n llethol iawn? Mae yna bobl a all eich helpu i’w lywio.
Dysgu mwy amCymorth personol

Paratoi ar gyfer gwaith

Pa fath o yrfa ydych chi eisiau? Sut ydych chi'n cael y sgiliau rydych eu hangen i gyrraedd eich nod neu'r profiad y mae cyflogwyr ar ei ôl? A sut allwch chi greu CV sy'n dangos y gorau ohonoch chi?
Dysgu mwy amParatoi ar gyfer gwaith

Chwilio am waith a gwneud cais am swyddi

Cyngor ar ble i ddod o hyd i swyddi gwag, prentisiaethau neu gyrsiau hyfforddi. Awgrymiadau ar wneud eich cyfweliadau yn gofiadwy a'ch hyder ddisgleirio.
Dysgu mwy amChwilio am waith a gwneud cais am swyddi