Adeiladu eich profiad
Os ydych chi newydd adael yr ysgol neu’r coleg, efallai y byddwch yn meddwl nad oes gennych y profiad y mae cyflogwyr yn chwilio amdano.
Peidiwch â phoeni. Yn gyntaf oll, efallai bod gennych fwy o brofiad nag rydych yn sylweddoli. Meddyliwch am y profiadau a gawsoch yn yr ysgol neu’r coleg (fel, gweithio gyda TG neu mewn prosiect busnes) neu drwy eich hobïau (fel, bod yn rhan o dîm neu drefnu teithiau gyda’ch ffrindiau).
Gallwch hefyd roi hwb i’ch profiad a’ch sgiliau trwy wirfoddoli neu wneud rhywfaint o brofiad gwaith. Yn ogystal, mae cyflogwyr yn aml yn cael eu denu at bobl sy’n weithgar yn datblygu eu hunain.
- Darganfyddwch fwy am gyfleoedd profiad gwaith, y gwahanol fathau a sut y gallwch elwa ohonynt.
- Cymerwch olwg ar ein herthyglau ar sut i gael i mewn i wirfoddoli a sut mae gwaith gwirfoddol yn ffordd wych o roi hwb i’ch rhagolygon o gael swydd, yn ogystal â rhoi cyfle i chi gefnogi eich cymuned.