Paratoi – fel eich bod yn gwybod beth rydych yn son am
- Ymchwiliwch i’r cwmni rydych yn gwneud cais iddynt.
- Meddyliwch am y cwestiynau y gallent eu gofyn a gweithio allan sut y byddech chi’n eu hateb. Mae gan wefan y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol restr deg prif cwestiwn cyfweliad (gwefan allanol).
- Defnyddiwch y dull cyfweld STAR (gwefan allanol) ar gyfer eich atebion – Situation-Task-Action-Result.
Ymarfer – ymarferwch eich atebion
- Dywedwch nhw’n uchel o flaen drych.
- Yn well fyth, ymarferwch gyda ffrind neu aelod o’r teulu. Gall helpu i dawelu’ch nerfau.
Trefnu – cael yr hanfodion yn eu lle
- Cynlluniwch eich taith i’r cyfweliad fel eich bod yn rhoi digon o amser i chi’ch hun.
- Neu os yw ar-lein, gwnewch yn siwr bod eich technoleg yn gweithio a dod o hyd i rywle na fydd neb tarfu arnoch chi.
Anadlu – tawelu’r nerfau
- Mae anadlu’n dyfn cyn i chi ddechrau yn arafu cyfradd curiad eich calon.
- Bydd cymryd anadl cyn pob ateb yn rhoi amser i chi feddwl.
Ymgysylltu – dangoswch eich hyder
- Gwenwch (ond nid fel The Joker).
- Eisteddwch yn unionsyth – mae’n dangos bod gennych ddiddordeb, ac mae’n gallu helpu eich anadlu.
- Gwnewch gyswllt llygad, ond peidiwch â syllu. Ceisiwch wneud cyswllt llygaid 70% o’r amser pan fyddwch chi’n gwrando a 50% o’r amser pan fyddwch chi’n siarad.
Eisiau gwybod mwy? Edrychwch ar ein hadran ar wneud eich marc mewn cyfweliadau swydd.
Ewch i’r dudalen nesaf ‘Magu hyder’ →
← Ewch yn ôl i’r dudalen ddewislen ‘Chwilio a gwneud cais am swyddi’