Os ydych yn 16 i 24 oed, gallwch gael cyngor gyda chwilio am swydd a sgiliau o wahanol leoedd.
Mae amrywiaeth o opsiynau fel rhan o Warant Ieuenctid y Llywodraeth.
Hybiau Ieuenctid
- Mae Hwb Ieuenctid yn le yn eich ardal leol lle gallwch gael help gyda’ch chwiliad swydd. Maent yn dwyn ynghyd gefnogaeth gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a chymorth gan sefydliadau lleol, fel y gallwch gael y gefnogaeth rydych ei angen i feithrin sgiliau, dod o hyd i gyfleoedd a symud i waith.
- Mewn Hwb Ieuenctid gallwch gael help gyda chwilio am swydd, ysgrifennu CV, magu hyder, cyfleoedd hyfforddi a chwrdd â chyflogwyr lleol. Fe welwch hefyd gyngor ar iechyd meddwl a chymorth tai a ddarperir gan bartneriaid dibynadwy.
- Nid oes angen i chi fod yn hawlio Credyd Cynhwysol i gael mynediad at Hwb Ieuenctid. Mae dros 100 o Hybiau Ieuenctid eisoes ledled Prydain Fawr, gyda llawer mwy yn cael eu sefydlu.
- Darganfyddwch fwy am Hybiau Ieuenctid.
Sefydliadau cefnogol eraill
- Gall y Gwasanaeth Gyrfaoedd yng Nghymru (gwefan allanol) eich helpu i wneud y penderfyniadau cywir am eich gyrfa. Edrychwch ar eu gwefan am fwy o fanylion, gan gynnwys sut i gysylltu ag ymgynghorydd gyrfa.
- Mae Youth Employment UK (gwefan allanol) yn cynnig hyfforddiant sgiliau, canllawiau gyrfa a gwybodaeth chwilio am swyddi.
- Mae Ymddiriedolaeth y Brenin (gwefan allanol) yn darparu cymorth i bobl ifanc, gan gynnwys datblygiad personol, cyngor gyrfaoedd a hyfforddiant busnes.
Ewch i’r dudalen nesaf ‘Ydych chi’n berson ifanc sy’n hawlio Credyd Cynhwysol?’ →