Datganiad hygyrchedd

Hygyrchedd gwefan

Trosolwg o’r datganiad

Mae’r datganiad hygyrchedd yma yn berthnasol i’r wefan (https://jobhelp.campaign.gov.uk/cymraeg/midlifemot).

Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosib i allu ei defnyddio.

Er engraifft, mae hyn yn golygu dylech fod yn gallu:

  • chwyddo hyd at 400% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
  • llywio’r wefan gyfan drwy ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r wefan gyfan drwy ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y wefan gyfan gan ddefnyddio darllenydd sgrin
  • deall y cynnwys waeth beth yw lefel llythrennedd
  • defnyddio’r wefan hon gyda’r fersiynau diweddaraf o borwyr mawr ar draws Windows, Mac OS, iOS ac Android (gan gynnwys Chrome, Edge, Firefox, Safari a Samsung internet).

Mae gan AbilityNet (gwefan allanol) gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llawn â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 27 Mehefin 2023. Diweddarwyd ddiwethaf 8 Chwefror 2024
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 2 Chwefror 2024 yn erbyn safon AA WCAG 2.2.
Mae tîm hygyrchedd MOT Canol Oes wedi profi’r wefan hon gan ddefnyddio cyfuniad o offer profi â llaw ac awtomataidd.

Gofyn am wybodaeth mewn ffurf hygyrch

Os ydych angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn ffurf gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, anfonwch e-bost atom yn accessible.formats@dwp.gov.uk.

Ymwadiad

Cysylltu o’r MOT Canol Oes

Mae’r MOT Canol Oes digidol, a gynhelir ar jobhelp.campaign.gov.uk, yn cysylltu â gwefannau sy’n cael eu rheoli gan adrannau ac asiantaethau eraill y llywodraeth, darparwyr gwasanaethau neu sefydliadau eraill.

Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros y cynnwys ar y gwefannau hyn.

Nid ydym yn gyfrifol am:

  • ddiogelu unrhyw wybodaeth a roddwch i’r gwefannau hyn
  •  unrhyw golled neu ddifrod a allai ddeillio o’ch defnydd o’r gwefannau hyn, neu unrhyw wefannau eraill y maent yn cysylltu â nhw.

Rydych yn cytuno i’n rhyddhau o unrhyw hawliadau neu anghydfodau a allai godi o ddefnyddio’r gwefannau hyn.

Dylech ddarllen yr holl delerau ac amodau, polisïau preifatrwydd a thrwyddedau defnyddwyr terfynol sy’n ymwneud â’r gwefannau hyn cyn i chi eu defnyddio.